Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gydag Eigra Lewis Roberts, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i nofel, Hogan fach o’r Blaena.

Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…

Stori bywyd un sydd wedi gwirioni ar eiriau ac wrth ei bodd yn eu trin a’u trafod – y geiriau sy’n brifo ac yn cysuro, yn tanio’r dychymyg ac yn rhoi blas ar fyw.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Rhywbeth ddigwyddodd yn gwbl ddirybudd oedd o pan sylweddolais i’n sydyn un diwrnod fy mod i wedi dechrau ysgrifennu hunangofiant, o bob dim.

Beth yw neges y llyfr?

Y cyfan wnes i oedd defnyddio’r cyfrwng mwyaf personol i ddweud ‘fel hyn yr ydw i’n gweld pethau’ a cheisio bod mor onest ag oedd modd.

Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?

Nid cyngor, dim ond dweud – Os ydi’r ysfa a’r penderfyniad i sgrifennu’n ddigon cryf i allu cynnau tân all neb na dim ei ddiffodd.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Carpedi hud ydi llyfrau i mi a’r darllen yn fwynhad ac yn wefr. Mae’n siŵr i sawl llyfr (fel bywyd ei hun) gael dylanwad arna i heb imi fod yn ymwybodol o hynny.

Gallwch ddarllen mwy am ‘Hogan fach o’r Blaena’ a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!