Mi fydd hi’n “noson emosiynol” yng Nghlwb Hwylio Caernarfon nos Sadwrn (Gorffennaf 9) pan fydd gig er cof am Dyfrig Evans yn cael ei chynnal.
Bu farw’r actor a cherddor yn 43 oed ym mis Mai, a bu sawl un o’i gyfoedion yn talu teyrnged iddo.
Mae’r gig yn rhan o arlwy Gŵyl Arall sy’n cael ei chynnal yn y dref dros y penwythnos.
Ymhlith y bandiau sy’n chwarae mae Orinj, Maes Parcio, Elis Derby a Daf Palfrey.
Mae’r band Maes Parcio yn cynnwys Twm, mab Dyfrig.
Bydd y gig yn cychwyn am hanner awr wedi saith a bydd holl elw’r noson yn cael ei roi i elusen Ymchwil Canser, ac mae’r tocynnau i gyd eisoes wedi eu gwerthu.
“Noson emosiynol”
Roedd Dyfrig Evans mewn band roc poblogaidd o’r enw Topper gyda’i frawd Iwan.
Fe gafodd Iwan gais i helpu gyda threfnu’r gig goffa.
“Mae o’n beth neis eu bod nhw wedi meddwl amdano fo,” meddai Iwan wrth golwg360.
“Ddaru nhw gysylltu efo fi’r wythnos diwethaf yn gofyn a fyswn i’n meindio tasa nhw’n cynnal noson er cof amdano fo a gofyn a oeddwn i eisiau helpu i drefnu.
“Yn amlwg, wnes i ddweud: ‘Wrth gwrs’.
“Felly ia, mae o’n beth neis bod nhw wedi meddwl amdano fo, ac wrth gwrs eu bod nhw am roi’r elw i gyd i Cancer Research.
“Dw i’n gwybod bod hen griw Topper yn mynd i fynd draw a lot o hen ffrindiau a ballu.
“Mi fydd hi’n noson emosiynol.”
“Mae o’r un sbit â Dyfrig”
Roedd sicrhau bod mab Dyfrig Evans yn chwarae gyda’i fand Maes Parcio yn y gig yn bwysig i Iwan Evans.
“Bendant, gan fod Twm yn y band ro’n i’n meddwl ei fod o’n bwysig bod o’n rhan ohono fo,” meddai.
“Mi fasa Dyfrig wrth ei fodd tasa fo’n gwybod bod ei fab yn gwneud gig.
“Chafodd o erioed gyfle i glywed nhw’n chwarae felly wnes i gysylltu efo Twm, a gofyn a fysa nhw awydd ei wneud o, ac yn amlwg mi’r oedden nhw.
“Mi fydd hi’n neis gweld Twm ar y llwyfan, mae o’r un sbit â Dyfrig, mae o bach yn scary pan ti’n sbïo arno fo.
“Ond na, dw i’n falch bod ni wedi llwyddo i’w cael nhw i chwarae.”
Teyrngedau i “ffrind annwyl”, Dyfrig Evans
Diolch Dyfrig