Mae’r rapiwr Hedydd Ioan, sy’n perfformio dan yr enw skylrk,  yn sefydlu label recordiau newydd o’r enw INOIS yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd.

Daeth skylrk yn adnabyddus ar ôl ennill Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2021.

Mae’n sefydlu’r label gyda’i gyfaill Osian Cai, sy’n aelod o’r band CAI.

Ynghyd â skylrk a CAI, mae’r sefydlwyr wedi cadarnhau y bydd y band ifanc o Gaernarfon, Maes Parcio, yn ymuno gydag INOIS.

Mi fydd Maes Parcio yn perfformio yn Gig Goffa Dyfrig ‘Topper’ Evans heno yng Nghlwb Hwylio Caernarfon, er cof am y canwr a’r actor poblogaidd fu farw yn 43 oed.

“Mae’r gair INOIS yn dod o’r hen Gymraeg am ‘Yn oes oesoedd’, felly’r holl syniad o INOIS ydi bod ni’n ceisio creu rhywbeth sy’n mynd i fyw yn hirach nag wythnos neu fis, ond creu cerddoriaeth a digwyddiadau fydd yn aros ym meddyliau pobol am amser hir,” meddai Hedydd Ioan.

Ychwanegodd Osian Cai: “Mae’r cyfle i allu rhoi miwsig ein hunain allan ond hefyd cael y cyfle i weithio a dod i adnabod mwy o artistiaid yn amazing dwi’n meddwl.

“Y prif reswm dw i’n meddwl yr oedden ni eisio cychwyn rhywbeth fel yma oedd cael mwy o fwrlwm a gigs o gwmpas ardal ni.”

“Cyfleoedd i artistiaid llai adnabyddus”

Dywedodd Owain Sion, drymiwr Maes Parcio, band o Gaernarfon: “Ar ôl dwy flynedd mor anodd, ma’r sîn yn gofyn am rywbeth newydd i roi cyfleoedd i artistiaid llai adnabyddus – a phwy well ond dau artist sydd â phrofiad creadigol extensive, sy’n gwybod beth mae’n ei feddwl i weithio o’r gwaelod i fyny.

“Alla i ddim disgrifio pa mor gyffrous ydw i gymryd rhan mewn taith ffres fel hyn.”