Bydd cyfrol i gofnodi “cyfraniad anferth” Hywel Gwynfryn i’r byd pop Cymraeg yn cael ei chyhoeddi’r wythnos hon i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.
Fe fydd Anfonaf Eiriau, a fydd allan ar ddiwrnod ei ben-blwydd ddydd Mercher, Gorffennaf 13, yn rhychwantu 70 mlynedd o ganu cyfoes yng Nghymru.
Drwy gofnodi cyfraniad y cyflwynydd i fyd cerddoriaeth, bydd y gyfrol, sy’n rhan o gyfres ‘Atgofion Drwy Ganeuon’ Gwasg Carreg Gwalch, hefyd yn codi cwr y llen ar ei fywyd personol a chreadigol.
Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd y rhaglen bop gyntaf yn y Gymraeg, Helo Sut Dach-chi?, ar y radio yn y 1960au, a bu’n cyfrannu caneuon i’r sîn bop Gymraeg ers y dyddiau cynnar.
“O flynyddoedd cynnar yr Ysgol Uwchradd, tan gyfnod diweddar gofidus Covid, mae’r caneuon yn y gyfrol hon yn rhychwantu saith deg mlynedd ac yn codi cwr y llen ar fy mywyd personol a chreadigol,” meddai Hywel Gwynfryn, sy’n dad balch i saith o blant ac yn daid i bump o wyrion ac wyresau.
“I fod yn fanwl gywir, nid caneuon sydd yn y gyfrol. Mae ar eiriau angen alaw i’w troi yn gân. Felly gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r geiriau ac yn clywed y gân yr un pryd.
“Mae rhai o’r caneuon yn y llyfr yn mynd â fi ar drên i bentref glan-môr Palavas yn ne Ffrainc. Mi af yno eto ar bererindod i’r fan lle’r oeddwn gyda’r ferch a’i ‘llygaid glas fel blodau’r gog yn Ebrill’.
“Y cyngor gorau gefais i erioed oedd cyngor John Roberts Williams, cyn-olygydd llachar Y Cymro pan oeddwn i’n cychwyn ar fy nhaith ym 1964 – ‘Mae gen ti ddwy glust ond dim ond un geg oherwydd mae holwr da yn gwrando ddwywaith yn fwy na mae o’n siarad.,” ychwanega, wrth gyfeirio at ei waith fel cyflwynydd.
‘Mynd yn iau wrth fynd yn hŷn’
I ddathlu ei ben-blwydd, mae Hywel Gwynfryn wedi prynu crys-t â’r neges ‘Mae hi wedi cymryd 80 mlynedd i mi edrych mor ifanc â hyn!’ arno.
“Dw i’n cytuno efo Syr Thomas Parry Williams, sy’n sôn yn un o’i sonedau am ‘fynd yn iau wrth fynd yn hŷn’, a gyda Clint Eastwood sy’n diystyru oedran drwy ddweud ‘My age? They’re just numbers after my name. They don’t tell you anything about who I am.‘
“Ond dw i’n gobeithio y dowch chi i fy adnabod i’n well drwy eiriau y caneuon yn y gyfrol yma, a mwynhau teithio efo mi drwy wyth deg mlynedd o fywyd hapus iawn a hynod o freintiedig.”
Bydd Anfonaf Eiriau ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru ddydd Mercher (Gorffennaf 13), a drwy wefan Gwasg Carreg Gwalch a’r Cyngor Llyfrau.