Côr CF1 o Gaerdydd ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Roedd ennill y gystadleuaeth yn “uchafbwynt blynyddoedd o waith caled”, meddai un o’r aelodau, Peredur Owen Griffiths, sy’n Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru.

Daeth y côr i’r brig yn y categorïau Corau Cymysg a’r Corau Agored, cyn mynd ymlaen i gystadlu am deitl Côr y Byd.

Ymysg eu rhaglen fuddugol oedd ‘Gwinllan a Roddwyd i’n Gofal’, trefniant newydd o ‘Dros Gymru’n Gwlad (Finlandia)’, a chaneuon Ffrangeg a Rwsieg.

“Roedd o’n benwythnos gwych. Mae’n grêt bod yn rhan o deulu estynedig Côr CF1,” meddai Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd.

“Dw i’n meddwl mai ni yw’r pumed côr o Gymru sydd wedi ennill Côr y Byd. Dydy o ddim yn digwydd yn aml iawn, er bod dau wedi digwydd bron gefn yng nghefn efo Johns’ Boys ryw dair blynedd yn ôl.

“Ar y sîn cystadlu corawl rhyngwladol mae o’n un o’r pethau mae’r corau mawr, da rhyngwladol eisiau ei ennill ac rydyn ni wedi’i wneud o, sy’n arbennig i feddwl ein bod ni’n gôr lle mae unrhyw yn gallu troi fyny ar nos Lun ac ymuno.

“Dim jyst Gwlad y Gân ydyn ni, ond rydyn ni’n Wlad o Gymuned – cymuned o gymunedau sy’n dod at ei gilydd.

“Mae o’n neis cael sefyll yna a gwrando ar gorau ffantastig, ac erbyn hyn bod yn un ohonyn nhw.”

Cafodd CF1 yn ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl fel côr ieuenctid, ond wrth i’r aelodau heneiddio mae’r côr wedi troi’n un cymysg sydd ag aelodau rhwng tua 18 oed a’u 40au cynnar.

Yn ôl Peredur Owen Griffiths, mae ennill cystadleuaeth fel hon yn rhoi hyder i’r côr.

‘Hyder i Gymru fel gwlad’

Thema cystadleuaeth y Corau Agored oedd gwladgarwch, a chanodd CF1 ‘Marwnad yr Ehedydd’, ‘Dros Gymru’n Gwlad’, a ‘Gwinllan a Roddwyd i’n Gofal’.

“Mewn cyd-destun ehangach, pan ti’n gweld y shambles sydd yna yn San Steffan, a bod ni cael ennill wedyn yn cael canu bod ni dal yma – a’r elfen o Dafydd Iwan yn canu cyn gemau pêl-droed – rydyn ni ar y llwyfan rhyngwladol rŵan yn dweud ‘Rydyn ni yma’. Mae yna ryw hunanhyder yn dod drwodd wedyn, drwy’r elfennau hynny, i Gymru fel gwlad,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae o’n fetaffor i ni fel gwlad.”

Mae grym caneuon a diwylliant yn dod i’r amlwg drwy ganu’r caneuon hyn ar lwyfan rhyngwladol, a thrwy boblogrwydd diweddar ‘Yma o Hyd’, ychwanega.

“Dim bwys os ti’n siarad yr iaith neu ddim yn siarad yr iaith, mae pawb yn deall y sentiment tu ôl i’r gân,” meddai am ‘Yma o Hyd’.

“Maen nhw’n deall ei bod hi’n dod â phobol at ei gilydd. Mae ein diwylliant ni’n dod â ni at ein gilydd, mae’n mynd tu hwnt i elfennau fel yr iaith, dim bwys o le ti’n dod yng Nghymru, dim bwys os ti wedi bod yma ers pum munud neu bum canrif… os ydych chi’n credu yn yr hyn rydyn ni’n ei gredu o ran Cymreictod, o ran bod Cymru yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun, yn gallu sefyll ymysg cenedlaethau’r byd, mae’n rhoi hunanhyder.

“Mae hi’n bwysig bod y gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol yma’n cael eu cefnogi, ac yn gallu symud ymlaen a dangos, mewn ffyrdd gwahanol, pam ein bod ni yma o hyd.”

‘Dim geiriau’

Brawd bach Peredur Owen Griffiths, Eilir Owen Griffiths, yw Cyfarwyddwr Cerdd CF1, a dywedodd ei bod hi “mor braf” cael bod yn ôl yn cystadlu yn Llangollen.

“Roedd ennill y Côr Cymysg ac yna’r Côr Agored yn braf iawn, yn enwedig yn erbyn cymaint o gorau eraill o safon uchel o bob cwr o’r byd,” meddai.

“Mae ennill Côr y Byd y golygu cymaint i ni fel côr, ac mae’n profi bod dal cyfoeth o dalent gerddorol yng Nghymru. Y tro diwethaf i ni gyrraedd Côr y Byd oedd yn 2019, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod ddiwethaf, pan oedd Johns’ Boys yn fuddugol. Mae hi’n braf gallu dathlu canu corawl Cymreig drwy gadw Tlws Pavarotti yng Nghymru, am flwyddyn arall o leiaf!

“Rydyn ni fel côr wedi bod yn gweithio’n galed iawn, fel pawb arall, i ailgydio’n llawn mewn ymarferion ers y pandemig.

“Mae Covid yn dal i fod yn achosi trafferthion, gydag aelodau’n methu cystadlu gyda ni eleni oherwydd hynny. Roedd gweld safon pawb yng Nghôr y Byd yn bleser. Ac i ennill wedyn… does dim geiriau!

“Mae’r côr yn dathlu 20 mlynedd eleni, ac mae ennill Côr y Byd yn goron ar y cyfan. Mae’n ffordd wych o ddechrau’r dathliadau!”