Mae enwau ymgeiswyr llwyddiannus cynllun i annog mwy o awduron du, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol Cymraeg i sgrifennu i blant wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd deg o awduron yn derbyn cefnogaeth i greu straeon i blant bach dros gyfnod o bedwar mis fel rhan o gynllun AwDUra.
Mudiad Meithrin sydd yng ngofal y cynllun, gyda chefnogaeth yr awduron Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros, a’r gobaith yw cyhoeddi straeon gan leisiau newydd.
Y deg ymgeisydd llwyddiannus yw:
Lal Davies – Gwneuthurwr ffilmiau sy’n barddoni a thynnu lluniau hefyd. Daeth teulu ar ochr mam Lal i fyw i’r gogledd o dde India dros ganrif yn ôl.
Natalie Jones – Un o golofnwyr Golwg, sy’n athrawes lanw ac yn wirfoddolwr i’r elusen Cyngor Hil Cymru. Ei nod yw creu cymuned sy’n magu’r teimlad o gynefin ym mhob un plentyn yng Nghymru.
Jaziea Farag – Athrawes o Gaerdydd, sydd wrth ei bodd yn rhedeg a darllen.
Nia Morais – Awdur a dramodydd o Gaerdydd, sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion am hunaniaeth, hud a goroesiad.
Sarah Younan – Artist, academydd ac awdur, a chyfarwyddwr creadigol Watch Africa Cymru. Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Cyngor y Celfyddydau, ac yn gweithio yn Amgueddfa Cymru.
Theresa Mgadzah Jones – Cyn-athrawes Zimbabwean, sy’n fam a nain, ac sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio i elusen ddyngarol ers 2006, ac wrth ei bodd yn darllen a choginio.
Mili Williams – Yn wreiddiol o Fangor, aeth i Lundain i astudio gradd Feddygol cyn mynd i Fanceinion i weithio. Mae hi bellach yn byw yn ôl yng Nghymru, ar ôl priodi Cymro.
Chantelle Moore – Athrawes uwchradd yng Nghasnewydd sydd wedi byw a gweithio yn Japan, a gwirfoddoli gyda Reach Out Cameroon. Cafodd ei geni a’i magu yng Nghaerdydd, lle mae hi’n byw gyda’i gŵr a thri o blant.
Emily Drew – Gweithiwr elusennol 27 oed, yn wreiddiol o Basingstoke ond bellach yn byw ar fferm yn y Bala.
Melanie Owen – Cyflwynydd, colofnydd a chomedïwr o ochrau Aberystwyth. Ymunodd â thîm Ffermio ar S4C eleni, ac mae hi’n golofnydd newyddion ar raglen Prynhawn Da ac yn adolygu papurau bore Sadwrn i Radio Cymru yn rheolaidd.
‘Mynd i’r afael â diffyg cefnogaeth’
Dywedodd yr awdur Jessica Dunrod, yr awdur du cyntaf o Gymru i gyhoeddi llyfrau plant, bod gweithio gyda’r Mudiad Meithrin i gychwyn ar brosiect a “fydd yn mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg” yn bleser.
“Roedd yn hynod o anodd i mi wneud fy llyfrau, heb sôn am adael i’r byd wybod fy mod wedi eu creu,” meddai.
“Bydd y prosiect hwn yn sicrhau na fydd yr awduron du a brown nesaf yn ei chael hi mor galed ag y gwnes i ac rwyf wrth fy modd bod sefydliadau fel Mudiad Meithrin yn helpu i chwalu’r rhwystrau i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.”
‘Unioni’r cam’
Dywedodd Manon Steffan Ros ei bod hi’n “anrhydedd go iawn” cael bod yn rhan o brosiect AwDUron.
“Ers cyn cof, mae Cymru wedi bod yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae’n bryd unioni’r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth deg yn ein llenyddiaeth,” meddai Manon Steffan Ros, sy’n un o golofnwyr eraill Golwg.
“Gall hyn ond cyfoethogi ein diwylliant.”