Byddai sicrhau mwy o amrywiaeth mewn llyfrau plant yn ffordd o greu cymdeithas lai hiliol, meddai’r awdur du cyntaf o Gymru i ysgrifennu llyfrau plant.

Mae angen i sefydliadau wneud llawer mwy i sicrhau cynhwysiant a chynrychiolaeth, meddai Jessica Dunrod, sy’n dod o Gaerdydd.

Yn y cyfamser, sefydlodd gronfa er mwyn ariannu cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau plant gan awduron du y llynedd.

Ers hynny, mae chwech o lyfrau wedi cael eu cyfieithu, yn ogystal â dau o lyfrau Jessica Dunrod ei hun, Dy Wallt yw Dy Goron ac Arbennig!

Datrysiad tymor byr oedd cronfa AwDuron, a gafodd ei sefydlu ar y cyd â’r Mudiad Meithrin, meddai Jessica Dunrod wrth ddweud bod angen gwirioneddol am fwy o lyfrau cynhwysol ar gyfer ysgolion.

Dangosodd arolwg cyntaf Reflecting Realities, sy’n edrych ar amrywiaeth mewn llenyddiaeth plant, mai 1% yn unig o’r llyfrau plant a gafodd eu cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig yn 2017 oedd yn cynnwys prif gymeriad du, Asiaidd, neu o leiafrif ethnig.

Yn erthygl ddiweddaraf Beyond the Secret Garden, mae Darren Chetty a Karen Sands-O’Connor yn ystyried cynrychiolaeth lleisiau du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol yn llenyddiaeth plant Cymru.

Yn ôl yr erthygl, mae Darren Chetty wedi clywed gan sawl asiantaeth lenyddol fod llyfrau plant Prydeinig sy’n cynnwys prif gymeriad du neu frown yn parhau i fod yn anodd i’w gwerthu i gyhoeddwyr.

Llyfr Jessica Dunrod, Dy Wallt yw Dy Goron, yw’r unig lyfr lluniau ffuglennol sy’n cynnwys person o liw a sydd wedi’i osod yn benodol yng Nghymru, meddai.

‘Cwricwlwm newydd ond dim llyfrau’

Mae Jessica Dunrod yn rhagweld y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i awduron du eraill o Gymru ysgrifennu llyfr i blant, oni bai bod newid.

“Fe wnes i ysgrifennu am rywbeth o’r enw’r Elsa Effect. Os oes gennym ni gynrychiolaeth mewn llyfrau, dw i’n meddwl, a dyma fy theori – gawn ni ffeindio allan mewn tua phymtheg mlynedd – y bydd pobol lai hiliol, efallai,” meddai wrth golwg360, gan ychwanegu bod yna ddiffyg llyfrau cyffredinol am bynciau megis iechyd meddwl a galar hefyd.

“Byddai’n cael ei normaleiddio, gweld pobol mewn llyfrau.

“Roedd y theori yna’n seiliedig ar y teimlad o hunanhyder negyddol yr ydych chi’n ei gael gennych chi’ch hun ac eraill drwy beidio cael eich cynnwys mewn llenyddiaeth, animeiddiadau, ac ati.

“Mae gennym ni gwricwlwm newydd ond does gennym ni ddim llyfrau ar ei gyfer, felly dyna pam dw i’n trio cael pobol i sylwi os ydych chi’n datrys hynny yna dw i’n meddwl y gall [fod yn gam tuag at roi stop ar hiliaeth].

“Os ydych chi wedi dysgu [hiliaeth] erbyn rydych chi’n bump, chwech oed, yna cynlluniau cydraddoldeb hil pawb fydd dad-ddysgu hynny.

“Os oes gennym ni lyfrau am enethod du a bechgyn du yn cael eu gweld fel rheolwyr, merched du fel peirianwyr – normaleiddio presenoldeb pobol o liw – yna gallwch chi, dw i’n meddwl, ddadwneud y misogyny a’r hiliaeth, o leiaf i’r oedrannau ifanc.

“Dw i dal yn cael plant yn cyffwrdd fy wyneb ac yna’n arogli eu dwylo i weld os dw i’n arogli fel siocled oherwydd fy mod i wedi mynd i ymweld â’u hysgolion.

“Os nad oes yna gynrychiolaeth ymysg staff addysg, neu fod plant ddim yn cael cynnig y cyfle yna i ofyn cwestiynau syml neu ddarllen am [bynciau fel] gwallt affro yna rydyn ni’n doomed.

“Mae e gyd yn gysylltiedig. I fi, mae’n ymwneud â chwffio hiliaeth, ond i wneud hynny mae angen sicrhau mwy o amrywiaeth mewn llenyddiaeth a’r system addysg.”

‘Datrysiad byrdymor’

Mae Jessica Dunrod yn gyfarwyddwr cwmni cyfieithu Lily Translate, a llynedd bu’n cynrychioli Cymru yng ngŵyl lyfrau awduron du mwyaf Ewrop.

“Roeddwn i’n hyrwyddo y dylai pobol gyfieithu i Sbaeneg, ac wedyn fe wnes i feddwl pa mor dila yw llenyddiaeth yma yng Nghymru felly fe wnes i feddwl y byddai posib cyfieithu i Gymraeg.

“Doedd yna ddim llawer o gymhelliant [i gyfieithu llyfrau], ac mae angen cymhelliant.

“Pe bawn i’n codi’r arian, byddai’n ddatrysiad byrdymor am nawr tra ein bod ni’n disgwyl i fwy o awduron ddod i’r golwg.”

Er bod Jessica Dunrod wedi ysgrifennu, argraffu, a chyhoeddi ei llyfr cyntaf o fewn pedwar mis, sylweddolodd wrth siarad yn rhaglen Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru y byddai’n cymryd dwy neu dair blynedd i gael awdur du, neu awduron o unrhyw gefndir amrywiol arall, o Gymru i ysgrifennu llyfr plant eto yn sgil y system bresennol.

Roedd yna wahoddiad i awduron llyfrau plant o unrhyw grŵp sy’n cael eu tangynrychioli i wneud cais am gronfa AwDuron, ond yn digwydd bod, dim ond awduron du drïodd, yn ôl Jessica Dunrod.

“Y rhan anodd oedd cwffio yn erbyn sefydliadau megis Cyngor Llyfrau Cymru,” meddai.

“Fe wnaethon nhw wrthod cyfrannu 50c tuag at broblem y maen nhw, dw i’n credu o fy ngwaith ymchwil, yn ei hachosi, achos nhw sy’n ariannu’r llyfrau.”

Ymateb

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymateb i’r feirniadaeth, ac wedi dweud eu bod nhw’n cymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth.

Maen nhw hefyd yn cydnabod bod mwy i’w wneud.

Darllenwch eu hymateb nhw’n llawn, yn ogystal ag ymateb Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, yma:

Llyfrau

Cyngor Llyfrau Cymru’n ymateb i feirniadaeth am ddiffyg amrywiaeth mewn llyfrau plant

Cadi Dafydd

“Mae Llywodraeth Cymru wedi herio Cymru i gyd i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 ac rydyn ni’n falch iawn i fod yn rhan o’r daith yma”