Sengl ddiweddaraf Tara Bandito, prosiect cerddorol Tara Bethan, yw un o’i chaneuon “mwyaf amrwd” hyd yn hyn.
Mae ‘Drama Queen’ yn neidio o iaith i iaith, ac yn cynnwys curiadau a synnau electroneg, yn ogystal â chadw i’r pop indi sy’n rhan annatod o gerddoriaeth Tara Bandito.
Mae dylanwad India a’r Sanskrit ar y gân, gyda’r gytgan “Ong Namo Guru Dev Namo” yn cyfieithu i “Rwy’n ymgrymu i’r doethineb dwyfol ynof fy hun”.
Mae’r llinell yn llafargan a ddysgodd Tara Bethan wrth hyfforddi fel athrawes ioga yn India, a rhoddodd y ddoethineb y gallu iddi siarad efo’i hun yn ifanc.
Yng ngeiriau’r gân, mae hi’n rhoi maddeuant iddi hi ei hun am unrhyw gamgymeriadau, ac yn dadorchuddio ei hun fel person newydd di-ofn.
Cafodd y sengl ei rhyddhau’r wythnos hon ar Recordiau Cosh, ynghyd â fideo o’r gân gan Andy Neil Pritchard.
Methu gwrthod gigs
Cynllun gwreiddiol Tara Bandito oedd rhyddhau tair sengl a gweld sut oedd pethau’n mynd, ond aeth pethau mor dda fel ei bod hi wedi chwarae ei sioe fyw gyntaf cyn i ‘Drama Queen’ gael ei rhyddhau hyd yn oed.
Pan gafodd alwad gan brosiect Gorwelion gyda manylion gig yn Roundhouse, Llundain doedd ganddi ddim band yn ei le a dim syniad sut i ail-greu’r synnau unigryw sydd yn ei cherddoriaeth yn fyw.
Ond roedd y gig yn ormod o demtasiwn i’w wrthod, meddai, a pherfformiodd Tara Bandito yn fyw yno ddechrau’r mis.
Ers hynny, mae nifer o gigs wedi’u trefnu at yr haf, a bydd cyfle i weld y band mewn nifer o wyliau, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau a Focus Wales, Wrecsam.