Mae’r tîm creadigol sydd tu cefn i ddigwyddiad diwylliannol GALWAD wedi cael ei ddatgelu.

GALWAD: A Story From Our Future yw cyfraniad Cymru i ŵyl UNBOXED: Creativity in the UK, yr enw newydd ar ‘Festival UK 2022.’

Bydd yr ŵyl yn cyflwyno10 project enfawr sy’n dangos ‘creadigrwydd ac arloesedd’ drwy wledydd Prydain.

Bydd GALWAD yn stori ‘aml-lwyfan, amlieithog’ a fydd yn cael ei hadrodd dros gyfnod o wythnos ym mis Medi, drwy gyfrwng drama deledu, ar blatfformau digidol, a digwyddiadau byw mewn tri lle – Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog.

Mae’r prosiect yn cael ei ysgrifennu gan nifer o awduron, gan gynnwys:

  • Hanna Jarman, awdur-cyfarwyddwr ac actor Gaerdydd a oedd un gyfrifol am greu a chyd-ysgrifennu Merched Parchus ar S4C.
  • Jamie Jones, awduron a chyfarwyddwr o Abertawe. Enillodd wobr BAFTA Cymru ar gyfer ‘cyfarwyddwr torri trwodd’ am ei ffilm nodwedd gyntaf, Obey.
  • Ciaran Fitzgerald, awdur o Bort Talbot. Ar hyn o bryd, mae’n datblygu ei gomisiwn teledu cyntaf, The Special Ones.
  • Emily Burnett, awdur ac actores o Gaerdydd sydd wedi ennill BAFTA. Ysgrifennodd ddrama ar gyfer BBC Radio 4 yn ddiweddar, H Is For Hair.
  • Darragh Mortell, awdur a chyfarwyddwr o Gasnewydd. Mae ei waith yn cynnwys Peep Dish, drama BBC Radio 4 I am Kanye West, a chyfres SIEGE.
  • Marvin Thompson, bardd a gafodd ei eni yn Llundain ond sydd bellach yn byw yn y de. Enillodd Gystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol y Gymdeithas Farddoniaeth y llynedd, y bardd du cyntaf i’w hennill ers 1981.

Mae’r stori wedi’i seilio yn 2052, a chafodd y byd hwnnw ei ddychmygu drwy gyfres o ddigwyddiadau i ‘adeiladu byd’ a rhagweld Cymru 2052.

‘Rhywbeth epig’

Anthony Matsena yw Prif Goreograffydd GALWAD, a bydd yn arwain y coreograffi ac yn cyfarwyddo symud ar draws y prosiect.

Wedi’i eni yn Bulawayo yn Zimbabwe a’i fagu yn Abertawe, mae Anthony Matsena yn goreograffydd, perfformiwr, a chyfarwyddwr sy’n gweithio rhwng cyfryngau dawns, theatr, cerddoriaeth, a barddoniaeth.

Cyd-sefydlodd Matsena Productions gyda’i frawd yn 2017, a gyda’i gilydd maen nhw’n creu gwaith o amgylch straeon du wrth ddefnyddio sgiliau gwahanol mewn dawns, hip-hop, theatr, a barddoniaeth Affricanaidd.

Bydd Matsena yn gweithio gyda’r Coreograffydd Cyswllt Louise Stern, artist ac awdur a gafodd ei magu mewn cymuned fyddar yn unig ac sy’n defnyddio gwahanol fathau o iaith i archwilio cyfathrebu.

“Wrth dyfu i fyny yn Abertawe, roeddwn i bob amser yn breuddwydio am fod yn rhan o rywbeth epig a gwir yn fy nhref enedigol,” meddai Anthony Matsena.

“Rydw i mor hapus bod fy mreuddwyd bellach yn datblygu o flaen fy llygaid, ac ni allwn fod yn falchach o fod yn chwifio baner Cymru ochr yn ochr â thîm rhagorol – sydd wedi rhoi’r gofod a’r offer i mi ffynnu.

“Nid fi, Louise, a Casgliad Cymru a’r tîm creadigol yn unig sy’n gyfrifol am waith arloesol GALWAD. Mae hefyd yn galw ar bobl a chymunedau Cymru i ddod â’u straeon a’u hangerdd i’r prosiect.

“Dyna sydd fwyaf cyffrous am hyn. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar ac ni allaf aros i weld beth rydym yn ei greu gyda’n gilydd.”

Beth yw rhan Cymru yn y ‘Festival UK 2022’ ar ei newydd wedd?

Non Tudur

“Rydyn ni’n deall y bydd yna gwestiynau o ran o ble y tyfodd hwn. Mi allwn ni wastad droi’r sylw at y pethau cadarnhaol”