Y Parchedig Beti-Wyn James fydd yn olynu Dyfrig ab Ifor (Dyfrig Roberts) fel Arwyddfardd nesaf Gorsedd Cymru.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i fenyw ymgymryd â’r rôl.
Un o Glydach, Abertawe yw Beti-Wyn James, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd ymlaen i Goleg Diwinyddol Aberystwyth.
Cafodd ei hordeinio i’r weinidogaeth yn y Tabernacl yn y Barri, ac mae hi bellach yn weinidog ar Ofalaeth Eglwysi’r Priordy, Caerfyrddin, Cana, a Bancyfelin.
Mae hi hefyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
Cafodd ei hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe yn 2006, ac mae hi wedi bod yn ffyddlon i’r seremonïau ers hynny, meddai’r Orsedd.
Bu’n ddistain yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Ceredigion ym mis Mehefin 2019, a chynorthwyodd â’r gwaith o drefnu ‘Gŵyl yr Orsedd’ yng Nghaerfyrddin yn 2019 er mwyn nodi 200 mlynedd ers uno Gorsedd y Beirdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd Beti-Wyn James yn is-gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli yn 2014, a braint arbennig, meddai, oedd cael arwain yr Oedfa o lwyfan y Pafiliwn bryd hynny.
‘Cyfrwng arbennig’
Dywedodd Beti-Wyn James ei bod hi wedi’i magu i werthfawrogi pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i fywyd y genedl, a’i bod hi wedi mynychu’n flynyddol ers yn blentyn.
“Credaf fod yr Orsedd yn gyfrwng arbennig i hybu datblygu, hyrwyddo, a chyfoethogi’n diwylliant fel Cymry,” meddai Beti-Wyn James.
“Mae ei seremonïau yn lliwgar, urddasol a chyfoethog, a’i thraddodiadau’n rhai pwysig y mae angen eu diogelu.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â chyfrifoldebau’r Arwyddfardd, ac yn ymwybodol iawn o’r fraint fawr a ymddiriedwyd i mi.”
‘Brwdfrydedd twymgalon’
Wrth ei chroesawu i’r gwaith, dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd: “Daeth yn amlwg wrth sgwrsio gyda hi fod awyrgylch ac arwyddocâd defodau’r Orsedd yn agos iawn at galon Beti-Wyn.
“Mae ganddi frwdfrydedd twymgalon ac rwy’n siŵr y bydd yn effeithiol ac ysbrydoledig wrth ei gwaith.”
Bydd yr Arwyddfardd newydd, a fydd yn cael ei hadnabod yn yr orsedd fel yr Arwyddfardd Beti-Wyn, yn ymgymryd â’i chyfrifoldebau ar ddiwedd wythnos Eisteddfod Ceredigion ym mis Awst.