Bydd S4C yn matshio yr arian sy’n cael ei godi drwy weithiant tocynnau’r Cyngerdd Cymru ac Wcráin, bunt am bunt.

Fe fydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Aberystwyth yr wythnos nesaf, ac yn cael ei ddarlledu ar S4C, gyda’r holl incwm hysbysebu’n mynd tuag at gronfa apêl pwyllgor argyfyngau DEC ar gyfer pobol sy’n ffoi’r rhyfel yn Wcráin hefyd.

Elin Fflur fydd yn arwain y cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan Yuriy Yurchuk, y bariton o Wcráin a wnaeth ganu anthem genedlaethol ei wlad tu allan i Rif 10 yn ddiweddar.

Bydd cyfraniadau gan Gwyn Hughes Jones, y tenor o Fôn, y tenor Dafydd Wyn Jones o Ddyffryn Clwyd, Côr Glanaethwy, Côr Ysgol Gynradd Plascrug Aberystwyth, Côr y Cwm o’r Rhondda, a Comtemporary Music Collective hefyd.

Yn ogystal, bydd cyfle i’r cyhoedd gartref gyfrannu ar y noson drwy linell ffôn DEC.

‘Gwneud cyfraniad’

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle, ei bod hi’n falch iawn bod S4C yn gallu gwneud y cyfraniad hwn i helpu pobol sy’n ffoi o Wcráin.

“Mae gwylio’r adroddiadau newyddion ar S4C yn gwneud i rywun deimlo’n ddiymadferth, ond drwy’r ffordd ymarferol yma rydym yn gobeithio y gall S4C a phawb yng Nghymru wneud cyfraniad i helpu,” meddai.

Mae posib prynu tocynnau ar gyfer y noson drwy wefan Canolfan y Celfyddydau, a bydd y cyngerdd i’w weld ar S4C ac S4C Clic am 8.30yh, nos Sadwrn, Ebrill 2.

S4C a DEC Cymru yn cynnal cyngerdd arbennig i godi arian ar gyfer Wcráin

Bydd y noson arbennig yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Sadwrn, Ebrill 2