Elin Fflur fydd yn arwain cyngerdd arbennig er mwyn codi arian at Apêl Ddyngarol Wcráin ar Ebrill 2.

Bydd Cyngerdd Cymru ac Wcráin yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, gyda llu o artistiaid o’r ddwy wlad yn perfformio yno.

Ymhlith yr Wcreiniaid sy’n rhan o’r noson mae’r canwr bariton Yuriy Yurchuk, sydd wedi dod i amlygrwydd ar ôl canu ei anthem genedlaethol y tu allan i Downing Street ym mis Chwefror, a Tanya Harrison, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gyfrifol am y grŵp Contemporary Music Collective.

Hefyd yn perfformio mae’r cantorion Gwyn Hughes Jones, Dafydd Wyn Jones, Glain Rhys a Sam Ebenezer, yn ogystal â chorau’r Cwm, Glanaethwy ac Ysgol Plascrug, Aberystwyth.

‘Danfon neges gref o gariad a chefnogaeth’

DEC Cymru, sy’n gyfrifol am Apêl Ddyngarol Wcráin, fydd yn cyd-drefnu’r digwyddiad gyda S4C ar nos Sadwrn, Ebrill 2.

“Mae wedi bod yn dorcalonnus gweld yr argyfwng hwn yn datblygu ac yn dwysau yn Wcráin wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid groesi’r ffiniau bob dydd gyda dim ond yr hyn y gallent ei gario,”  meddai Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol y DEC yng Nghymru.

“Mae’r sefyllfa i’r bobol o fewn Wcráin hefyd yn mynd yn fwyfwy ansicr.

“Ond mae gweithgareddau fel hyn yn cynnig gobaith. Bydd yr arian a godir gan y cyngerdd yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro.

“Bydd yn danfon neges gref o gariad a chefnogaeth,  tra  hefyd yn galluogi elusennau’r DEC i ddarparu cymorth brys nawr yn ogystal â helpu i ailadeiladu bywydau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C ac i’r cwmni cynhyrchu Rondo Media am eu cefnogaeth i’r apêl hon.”

‘Plethu cysylltiadau’

Dywed Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, fod y noson yn “gyfle gwych i uno gyda’n gilydd a chofio am erchyllterau gwrthdaro Wcráin drwy bŵer cerddoriaeth ac adloniant”.

“Mae amrywiaeth yr artistiaid yn plethu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin,” meddai.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at gefnogi a chyfrannu at ymgyrch ddyngarol DEC Cymru trwy’r cyngerdd  unigryw yma.”

Ychwanega Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media sy’n cynhyrchu’r digwyddiad, eu bod nhw’n “hynod ddiolchgar i bob un o’r artistiaid am eu hamser a’u hymroddiad.”

‘Bydd rhoi cymorth dyngarol i bobol yr Wcráin yn fwyfwy pwysig dros yr wythnosau nesaf’

Mae 15 o elusennau Cymru wedi lansio apêl i godi arian i bobol yr Wcráin heddiw (Dydd Iau, 3 Mawrth)

Neges o ddiolch i bobol Cymru

Llythyr ar y cyd gan Achub y Plant yng Nghymru, Cymorth Cristnogol Cymru, Y Groes Goch, CAFOD, Oxfam Cymru a Tearfund