Mae’r ymateb i Apêl Ddyngarol Wcráin y Disasters Emergency Committee (DEC Cymru) wedi bod yn ysbrydoledig. O fewn pythefnos, mae mwy nag £8.5 miliwn wedi’i godi yma yng Nghymru, tra bod cyfanswm y DU bellach dros £175 miliwn.
Mae’r ymateb twymgalon hwn yn brawf o’r gefnogaeth sydd i’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro. Pan ddechreuodd y llif o ddelweddau trallodus lenwi ein sgriniau, nid troi llygaid dall dewisodd bobl ei wneud; ond gweithredu. Rydym am gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch yn fawr.
Derbyniwyd cyfraniadau ariannol o bob cwr o’r wlad. Ddaeth roddion o arian poced, casgliadau o boreau coffi a sêls pobi, ac o wylnosau undod. Mae eglwysi, clybiau chwaraeon, ysgolion, gweithleoedd, a chorau i gyd wedi chwarae eu rhan. Mae busnesau bach a mawr wedi cefnogi drwy gyfrannu’n ariannol neu rannu ein neges.
Rhaid inni hefyd ddiolch i’n harweinwyr gwleidyddol am gefnogi’r apêl, i Lywodraeth Cymru am eu rhodd o £4 miliwn, ac i Lywodraeth y DU am ddyblu’r £25 miliwn gyntaf a gawsom gan y cyhoedd. Yn wir, dyma Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang ar waith.
Mae elusennau DEC a’u holl bartneriaid lleol bellach yn ymateb i’r anghenion mwyaf brys yn Wcráin a’r gwledydd cyfagos. Mae eich rhoddion yn darparu hanfodion fel bwyd, dŵr, lloches, gofal yn sgil trawma a gofal iechyd i bobl a’u bywydau wedi’u chwalu. Rydych chi’n helpu darparu cymorth i deuluoedd sy wedi ffoi gyda’r peth nesaf at ddim, a hefyd yn cefnogi gwaith o fewn dinasoedd Wcráin gyda’r rhai nad oedd modd iddynt ffoi.
Mae’r swm anhygoel hwn o arian yn golygu y bydd hefyd modd inni barhau i ymateb a bod yn hyblyg wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Mae’r dinistr i’r isadeiledd hanfodol – megis ysbytai ac ysgolion, yn brawf poenus o effeithiau hir dymor y gwrthdaro hon. Mae teuluoedd wedi colli popeth. Mae bywoliaethau wedi diflannu dros nos. Plant bach wedi colli eu diniweidrwydd. Yn ogystal â darparu cymorth brys ar hyn o bryd, bydd eich rhoddion yn cael eu defnyddio i gefnogi’r rhai sydd yn parhau i ddioddef o ganlyniad i’r gwrthdaro yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Diolch i chi am ymddiried ynddom ni, ac yn ein gwaith. Mae dyfodol Wcráin yn ansicr, ac rydym yn deall maint y dasg enfawr sydd o’n blaenau. Ein haddewid ni yw y byddwn yn gwario’r arian hwn mewn modd cyfrifol gan barhau i gael ein harwain gan anghenion mwyaf brys y rhai sy wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro.
Ers bron i 60 mlynedd, mewn cyfnodau o argyfwng, mae’r DEC wedi dod â phrif elusennau dyngarol y DU ynghyd i helpu pobl mewn sefyllfaoedd bywyd neu farwolaeth. Mae eich cefnogaeth yn ein grymuso i weithio gyda’n gilydd i achub, amddiffyn ac adfer bywydau. Gyda’ch cefnogaeth barhaus, nid oes gennym unrhyw fwriad o stopio nawr.
Elusennau DEC yng Nghymru*
Melanie Simmonds, Achub y Plant yng Nghymru
Mari McNeill, Cymorth Cristnogol Cymru
Gill Peace, Y Groes Goch Brydeinig
Therese Warwick, CAFOD
Sarah Rees, Oxfam Cymru
Cynan Llwyd – Tearfund
*Ar draws y Deyrnas Unedig, mae gan DEC 15 o bartneriaid elusennol. Mae gan chwech o’r elusennau hyn bresenoldeb yma yng Nghymru.