Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gydweithio â’r Comisiynydd Cyn-filwyr er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog yn derbyn cefnogaeth a gofal priodol.
Maen nhw wedi cyflwyno cynnig fydd yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 16), yn dilyn penodi’r Cyrnol James Phillips i’r rôl newydd.
Fel rhan o’r cynnig, mae’r blaid am weld y llywodraeth a’r comisiynydd yn gweithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog i atal unrhyw un o’r lluoedd arfog, yn y presennol neu’r gorffennol, rhag bod o dan anfantais o gymharu â phobol eraill wrth gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus neu fasnachol.
Mae galw hefyd ar y Senedd i gydnabod gwasanaeth ac aberth y lluoedd arfog o Gymru, gan ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad i’r gymdeithas.
Y cynnig
Mae gofyn i’r Senedd:
1. gydnabod gwasanaeth ac aberth pobol o Gymru yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
2. mynegi diolchgarwch i luoedd arfog y presennol neu’r gorffennol am eu cyfraniad i’r gymdeithas yng Nghymru
3. croesawu penodiad y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru
4. galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â’r comisiynydd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog ar waith yng Nghymru
5. credu y dylai pwyllgor priodol ystyried adroddiadau blynyddol y Cyfamod
“Mae ein personel yn y Lluoedd Arfog yn mynd y tu hwnt i’r galw wrth warchod ein cenedl o ddydd i ddydd ond yn rhy aml, maen nhw o dan anfantais wrth wneud hynny,” meddai Mark Isherwood, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Maen nhw’n wynebu nifer o heriau wrth adael y filwriaeth, megis cael mynediad i gyflogaeth, tai a chefnogaeth iechyd meddwl, felly mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael y cymorth a’r gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu pan fo angen.
“Mae penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru, rhywbeth y bu’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw amdano ers tro byd, yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir, a rhaid i weinidogion Llafur gydweithio’n agos â fe i sicrhau bod gofal ar gael i’r gymuned o gyn-aelodau’r lluoedd arfog.”
‘Newid ystyrlon’
“Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi chwarae rhan bwysig wrth arwain at newid ystyrlon ond, wrth gwrs, fe allwn ni fynd ymhellach,” meddai Darren Millar, cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Lluoedd Arfog a Chadetiaid yn y Senedd.
“Mae arnom ni ddyled i’r rhai sy’n aberthu cymaint dros ein gwlad er mwyn darparu cefnogaeth a gwasanaethau o’r radd flaenaf, ac rwy’n gobeithio y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio mewn modd adeiladol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Comisiynydd newydd er mwyn gwneud yr union beth hwnnw.”