Mae Plaid Cymru yn galw am gymryd camau brys i sicrhau nad yw dyledion prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion yng Nghymru.

Fel rhan o’r alwad, maen nhw eisiau gweld canslo dyledion cinio ysgol, gan y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ar draws ysgolion cynradd o fis Medi fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

Dywed Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru, nad yw’r gost sy’n gysylltiedig â sawl agwedd o’r diwrnod ysgol – fel gwisg ysgol, tripiau a bwyd – bob amser yn gynhwysol i blant o gefndiroedd difreintiedig.

Dywed hefyd mai dim ond costau byw sy’n gwaethygu hyn, ac “nad yw’n ddigon bellach i fod yn wrthdlodi”, ond fod rhaid i bolisïau gael eu “prawfesur” fel nad yw cost y diwrnod ysgol yn achosi i unrhyw blentyn gael ei wahardd neu wynebu stigma yn dilyn gwaith archwilio gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant.

Mae cefnogi plant a phobl ifanc yn rhan o gynllun pum pwynt Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror.

Bydd y mater yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 16 Mawrth) fel rhan o alwad ehangach ar Lywodraeth Cymru i gynyddu eu hymdrechion i gefnogi plant, sy’n cynnwys:

  • adolygu polisïau ar wisg ysgol;
  • sicrhau nad yw dyledion cinio ysgol yn effeithio’n negyddol ar ddisgyblion;
  • darparu cymorth pellach i ysgolion i sicrhau bod tripiau a gweithgareddau yn gynhwysol.

‘Nid mater o feddwl am atebion gwrthdlodi yn unig’

“Nid mater o feddwl am atebion gwrthdlodi yn unig yw hyn, mae angen i ni sicrhau bod polisïau a phrosesau’n cael eu “prawfesur tlodi,” meddai Sioned Williams.

“Mae cost y diwrnod ysgol yn un enghraifft o’r fath y mae angen ei hadolygu ar frys. Ar ôl cytuno i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried yr effaith y gallai’r ddyled o ginio ysgol ei chael ar blant.

“Ni ddylent ychwaith roi’r gorau i adolygu polisïau cinio ysgol – rhaid iddynt hefyd gynyddu eu hymdrechion i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig drwy adolygu polisïau gwisg ysgol, gwella’r broses o gyfeirio’r Grant Datblygu Disgyblion, a sicrhau arferion cyson o ran cynwysoldeb gweithgareddau a theithiau a gynigir i blant.”