Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (15 Mawrth) mae Mark Drakeford wedi cyfaddef nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd yn gwella yn ddigon cyflym.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth dau glaf yn uned Hergest, Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2021 a Thŷ Llywelyn, Llanfairfechan fis Hydref 2021.

Roedd dau adroddiad i farwolaeth y ddau glaf yn yr unedau iechyd meddwl wedi nodi cyfres o fethiannau yn y gofal dderbynion nhw. Fe ddigwyddodd y ddwy farwolaeth o fewn blwyddyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei dynnu o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru.

Fe fu arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies AS yn holi Mark Drakeford ynglŷn â’r adroddiad damniol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Gofynnodd Andrew RT Davies wrth Mark Drakeford a oedd yn credu bod teuluoedd y ddau glaf fu farw yn haeddu ymddiheuriad gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.

Roedd y Prif Weinidog wedi cytuno eu bod nhw ac wedi cyfaddef nad oedd y gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn gwella mor gyflym ag y dylen nhw.

‘Angen cymryd camau pellach’ 

“Nid yw’r gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi bod mor gyflym ag sydd angen ac mae’n amlwg bod angen cymryd camau pellach i wneud yn siŵr bod pobl yng ngogledd Cymru yn cael y gwasanaeth y maen nhw’n  ei haeddu ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl.”

Wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford yn ddiweddarach, dywedodd Andrew RT Davies:

“Nid yw adroddiadau damniol sy’n amlygu methiannau mawr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn anghyffredin, ond mae’r un diweddaraf hwn yn hynod drasig a thrallodus i’w ddarllen.

“Digwyddodd y ddwy farwolaeth fisoedd yn unig ar ôl i’r bwrdd iechyd  gael ei dynnu allan o fesurau arbennig – gan brofi ei bod yn llawer rhy gynnar i wneud hynny.

“Nawr mae’r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn foddhaol yng ngogledd Cymru, mae’n hollbwysig ei fod yn gweithio gyda chydweithwyr i roi gwelliannau brys ar waith cyn colli mwy o fywydau. Mae trigolion gogledd Cymru yn haeddu llawer gwell na hyn.”