Mae gweithwyr dur o Bort Talbot wedi ymuno a gweithwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i gynnal protest y tu allan i’r Senedd yn Llundain yn galw am gymorth brys i’r diwydiant yng Nghyllideb y Gwanwyn.
Roedd Aelodau Seneddol a swyddogion undebau llafur wedi ymuno a’r gweithwyr o Bort Talbot ynghyd a rhai o Rotherham yn ne Swydd Efrog, a Scunthorpe yn Swydd Lincoln i fynnu gweithredu brys gan y Llywodraeth yn eu datganiad wythnos nesaf.
Maen nhw’n rhybuddio bod costau ynni cynyddol wedi arwain at oedi yn y gwaith cynhyrchu sy’n bygwth swyddi.
‘Bygwth dyfodol y diwydiant’
Dywedodd Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol Community: “Mae prisiau ynni anfforddiadwy yn bygwth dyfodol y diwydiant dur yng ngwledydd Prydain.
“Mae gweithwyr dur yn galw ar y Canghellor i weithredu nawr er mwyn ein helpu ni drwy’r argyfwng ynni hwn a rhoi chwarae teg i ni allu cystadlu â chynhyrchwyr yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae ein diwydiant dur mor bwysig nawr ag y bu erioed, ac fe wnaeth y pandemig amlygu’r peryglon o ddibynnu ar drefniadau masnachu rhyngwladol bregus am nwyddau hanfodol.
“Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn dod ag ansicrwydd newydd i’r byd, ac yn atgyfnerthu’r angen am ddiwydiant dur domestig cryf sydd wrth wraidd cadwyni cyflenwi strategol sy’n hanfodol i’n diogelwch cenedlaethol.
“Mae datganiad y Canghellor wythnos nesaf yn gyfle euraidd i’r Llywodraeth hon weithredu i gefnogi swyddi ym Mhrydain.”