Mae banc HSBC wedi cadarnhau y byddan nhw’n cau 69 o ganghennau yn barhaol yn ddiweddarach eleni.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r banc gyhoeddi “rhaglen o drawsnewidiad”, a oedd yn cynnwys cau 82 o safleoedd y llynedd.

Dywed HSBC bod y penderfyniad i gau rhagor o ganghennau yn dilyn twf mewn bancio ar-lein. Mae llai na 50% o’i gwsmeriaid bellach yn defnyddio’r rhwydwaith o ganghennau, meddai’r banc.

Y banciau fydd yn cau yng Nghymru yw Trefynwy yn Sir Fynwy ar 26 Gorffennaf, a Treganna yng Nghaerdydd ar 4 Hydref.

Fe fydd y camau diweddaraf yn effeithio tua 400 o staff ar draws y canghennau. Dywedodd llefarydd ar ran y banc eu bod yn gobeithio dod o hyd i swyddi eraill ar gyfer y staff o fewn 15 milltir o’u cartrefi.

Yn ôl HSBC fe fyddan nhw’n lansio pop-yps cymunedol, peiriannau hunanwasanaeth newydd a chymorth digidol ar gyfer cwsmeriaid.