Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu buddsoddiad mwyaf erioed er mwyn lleihau effeithiau llifogydd ar gymunedau.
Fe fyddan nhw’n darparu mwy na £214m dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer lleihau llifogydd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth ar gyfer cynllunio yn y dyfodol.
Datgelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James y cynlluniau ar gyfer y buddsoddiad heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 15), ar ôl ymrwymiad yn eu Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â sgil-effeithiau ehangach newid hinsawdd.
Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru hefyd yn cynnwys addewid i fuddsoddi arian mewn rheoli llifogydd yn benodol.
‘Fuodd hi erioed bwysicach i fuddsoddi’
Fe ymwelodd Julie James â phrosiect £3m er mwyn diogelu tref Aberafan rhag llifogydd arfordirol, cyn cyhoeddi’r buddsoddiad heddiw.
Y gobaith yw cyflawni prosiectau tebyg i’r un hwnnw ledled Cymru.
“Fel y dywed adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, mae’r hinsawdd yn newid nawr ac yn effeithio eisoes ar fywyd a bywoliaeth miliynau o bobol ym mhob cwr o’r byd,” meddai Julie James.
“Yn ogystal â lleihau’n hallyriadau, rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd i addasu i hinsawdd sy’n newid.
“Cwta fis yn ôl, cawsom dair storm anferth, un ar ôl y llall, yng Nghymru gyda llawer o gymunedau’n dioddef – fuodd hi erioed yn bwysicach i fuddsoddi i’w hamddiffyn.
“Mae’n dda gen i gyhoeddi felly ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, fydd yn neilltuo £71m y flwyddyn nesaf a £214m dros y tair blynedd nesaf.
“Caiff ei defnyddio i gynnal cynlluniau mawr i leihau llifogydd, nodi anghenion lleol a datblygu prosiectau am y dyfodol.
“Bydd ein cyllid hefyd yn helpu i gynllunio’n well at y dyfodol – rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Risg i’w rhoi ar waith ar fyrder ac i gefnogi pobol Cymru.
“Mae’r lefelau buddsoddi uchaf erioed rwy’n eu haddo heddiw yn adlewyrchu’r pwys y mae’r Llywodraeth hon yn ei roi ar reoli perygl llifogydd wrth i ni wella ein dealltwriaeth o’r heriau’r newid yn yr hinsawdd a gweithio gyda’n gilydd i addasu a pharatoi.”
‘Angen inni ymaddasu i hinsawdd sy’n newid’
Yn rhan o’r cynnydd yn y refeniw, fe fydd cyllidebau Cyfoeth Naturiol Cymru, y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol yn cynyddu, ac fe fydd modd i awdurdodau lleol wneud ceisiadau am fwy o arian i ddelio â newid hinsawdd.
Hefyd, mae map wedi ei gyhoeddi sy’n dangos sut fydd cyllid yn cael ei wario ledled Cymru a’r ardaloedd sydd am elwa.
Mae’r Aelod Dynodedig Siân Gwenllian yn croesawu’r addewidion newydd.
“Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod ein cymunedau mewn perygl uwch o lifogydd,” meddai.
“Bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth pwysig – gan helpu gyda’n hymdrechion i ddiogelu cartrefi a busnesau ledled y wlad.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld yr effaith wirioneddol a dinistriol y gall llifogydd ei chael ar fywydau pobol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd dros y tair blynedd nesaf.
“Yn ogystal â lleihau ein hallyriadau fel mater o frys, yn y blynyddoedd nesaf mae angen inni ymaddasu i hinsawdd sy’n newid.
“Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn o ganlyniad i weithio ar y cyd i wynebu’r heriau mawr sy’n cael eu peri gan yr argyfwng hinsawdd.”