“Hybu’r iaith a hybu byd natur” fydd nod teithiau cerdded arbennig i ddysgwyr yn ddiweddarach eleni, yn ôl y naturiaethwr Iolo Williams, sydd wedi bod yn trafod y fenter â golwg360.
Fe fydd o’n arwain teithiau ‘Ar Droed’, sydd wedi eu trefnu ar y cyd gan fudiad Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn dod â dysgwyr a siaradwyr sydd eisoes yn rhugl ynghyd i fwynhau byd natur.
Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, bydd pedair taith unigryw mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, sef Parc Margam ger Port Talbot, ardal Dinbych, Cwm Idwal yn Eryri, ac ardal Libanus ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r teithiau yn rhan o her ehangach y Mentrau Iaith – yr her #MiliwnOGamau – sy’n galw ar bobol ledled Cymru i ffurfio grwpiau a cherdded miliwn o gamau rhyngddyn nhw rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.
Ar ben y pedwar prif ddigwyddiad, fe fydd dwsinau o deithiau cerdded lleol yn cael eu cynnal dros y cyfnod, yn y gobaith o roi mwy o gyfleoedd i bobol gymdeithasu yn y Gymraeg.
‘Pawb yn mynd i weld rhywbeth’
Mae pob un o’r teithiau fydd Iolo Williams yn eu harwain yn agored i ugain unigolyn, sydd un ai’n ddysgwyr neu’n siaradwyr Cymraeg rhugl.
“Maen nhw’n syml iawn,” meddai’r naturiaethwr wrth golwg360.
“Y mentrau iaith sydd wedi paratoi’r llwybr ymlaen llaw, ac wedyn fydda i yn mynd â grŵp o ugain dysgwr a siaradwr Cymraeg am dro i weld beth welwn ni.
“Beth sy’n braf ydi bod pawb yn mynd i weld rhywbeth, dim bwys beth ydi’r tywydd.
“A beth ydw i wedi darganfod bob tro ydi, pan mae rhywun yn cerdded efo dysgwyr, maen nhw’n ymlacio dipyn mwy nag os ydi o’n sefyllfa ffurfiol mewn dosbarth ac ati.
“Maen nhw’n ffeindio eu bod nhw’n gallu sgwrsio efo’i gilydd ac adnabod pobol o’r ardal dydyn nhw heb gwrdd â nhw. Gallan nhw wedyn drefnu i gwrdd eto a dechrau mynd am dro neu fynd i’r tŷ tafarn.
“Hybu’r iaith a hybu byd natur ydi pwysigrwydd yr holl beth.”
Mwynhau byd natur
Mae Iolo Williams wedi cael profiad y llynedd yn tywys naturiaethwr arall, Steve Backshall, wrth iddo ddysgu Cymraeg ar raglen Iaith ar Daith – rhywbeth a oedd yn “brofiad arbennig.”
Fe bwysleisia fod y profiad o ddysgu Cymraeg gyda rhywun sydd yn rhannu’r un diddordebau yn ei gwneud hi’n haws.
“Mae gennych chi rywbeth yn gyffredin, a rhywbeth i sgwrsio amdano fo,” meddai.
“Petasech chi’n rhoi dau bysgotwr neu ddau ffarmwr – un yn Gymro a’r llall yn ddysgwr – fyddai hynny’n gweithio’n haws wedyn.
“Beth sy’n wych efo byd natur ydi bod yr enw Cymraeg yn un disgrifiadol bron bob tro, a pan mae rhywun yn esbonio pam a beth ydi ystyr yr enw, mae hynny’n golygu llawer mwy.
“Weithiau mae yna hanes i’r peth neu mae o’n disgrifio rhyw nodwedd arbennig ar y planhigyn, aderyn neu beth bynnag ydi o.
“Mae hynny’n gwneud o’n haws, nid yn unig i ddysgu’r iaith, ond i ddysgu’r enwau hefyd.”
‘Bron pob enw Cymraeg yn gwneud synnwyr’
“Fydda i’n egluro rhai o’r enwau iddyn nhw,” meddai wedyn.
“Mae yna aderyn bach sydd newydd gyrraedd yn ôl o’r Affrig rŵan – aderyn bach maint robin goch efo crwmp gwyn – a’i enw Saesneg ydi Wheatear.
“Ei enw Cymraeg ydi Tinwen y garn – ‘the white bum of the pile of rocks’ – a pan ti’n gweld yr aderyn, mae o’n eistedd ar garreg bron bob tro, a pan mae o’n hedfan i ffwrdd, mae ganddo ben ôl gwyn, gwyn.
“Mae o’n enw digri i ddysgwr, ond mae o’n enw sy’n gwneud synnwyr hefyd!
“Fyddwn ni ar yr ucheldir unwaith neu ddwy, ac mae yna blanhigyn yn fan yna, sy’n flodyn melyn del ofnadwy. Bog asphodel ydi o’n Saesneg, ond yn Gymraeg, Llafn y bladur, achos mae’r ddeilen fel llafn crwman mawr.
“Mae bron pob enw Cymraeg yn gwneud synnwyr a’n enw disgrifiadol dros ben, ac nid yn unig bod o’n helpu i ddysgu’r iaith, ond mi fydd o wirioneddol yn helpu nhw ddysgu be ydi’r planhigyn neu’r aderyn.”
Fe fydd hanes a phwysigrwydd yr ardaloedd yn cael eu hegluro wrth deithio yn y lleoliadau gwahanol hefyd, yn ogystal ag enwau llefydd penodol.
Miliwn o siaradwyr
Mae’r teithiau cerdded a’r ymgyrch #MiliwnOGamau yn rhan o’r ymgais hirdymor o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050.
“Mae hynny’n bwysig ofnadwy,” meddai Iolo Williams.
“Dw i’n Gymro Cymraeg i’r carn, ac mae’r iaith yr un mor bwysig i fi ag ydi byd natur.
“Os fyswn i’n marw jyst cyn cyrraedd y nod yna o filiwn, fyswn i wirioneddol yn marw’n ddyn hapus.
“Dw i’n darllen hen lyfrau am pan oedd George Borrow yn teithio drwy Gymru, a hyd yn oed rhywle fel Lerpwl, a chlywed yr un faint o Gymraeg a Saesneg.
“Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn wych cerdded o gwmpas Cymru y dyddiau yna, a gallu siarad Cymraeg o Brestatyn i Benarth. Dyddiau yma wrth gwrs, galli di ddim.
“Felly os allwn ni nid yn unig cael miliwn o siaradwyr, ond gwneud yr iaith Gymraeg yn berthnasol tu allan i’r dosbarth, dyna fyddai’r sialens fwyaf.”