Mae apêl wedi cael ei lansio gan grŵp o elusennau i godi arian ar gyfer cymorth dyngarol i’r Wcráin.

Fe gafodd Apêl Ddyngarol Wcráin ei lansio gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC Cymru), sy’n cynnwys asiantaethau fel Achub y Plant, Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth Cristnogol ac Oxfam Cymru, heddiw (Mawrth 3).

Mae bellach dros filiwn o bobol wedi ffoi o’r Wcráin dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae miliynau yn fwy wedi eu dadleoli o fewn ffiniau’r wlad.

Yn dilyn y gefnogaeth lethol i’r achos drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, roedd y 15 asiantaeth sy’n aelodau o bwyllgor DEC Cymru yn gytûn bod angen lansio’r apêl.

“Mae wedi bod yn glir iawn i ni fod yna awydd mawr ymysg poblogaeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i gefnogi hyn,” meddai Siân Stephen, sy’n cydlynu’r ymgyrch ar gyfer DEC Cymru, wrth golwg360.

“Mae’r angen yna, ac mae ein helusennau ni hefyd mewn lle i fod yn barod i weithredu.”

Blaenoriaethau

Bydd 13 o’r 15 elusen sy’n aelod o DEC Cymru yn ymateb i’r argyfwng yn yr Wcráin, gyda rhai ohonyn nhw eisoes yn rhoi cymorth yno.

“Mae pedwar o’r rheiny eisoes yn gweithio ar lawr gwlad yn yr Wcráin yn uniongyrchol neu drwy eu partneriaid lleol nhw, er enghraifft y Groes Goch Wcrainaidd,” meddai Siân Stephen.

“Mae eraill yn ffocysu ar wledydd sy’n ffinio â’r Wcráin i gynorthwyo’r ffoaduriaid sydd yn croesi’r ffin.

“Ein prif ffocws ni ar hyn o bryd yw cefnogi pobol a theuluoedd sydd wedi’u dadleoli.

“Byddwn ni’n cefnogi teuluoedd gyda grantiau arian parod, pecynnau bwyd brys, dillad cynnes a chysgod.

“Yn amlwg, mae pobol wedi ffoi gyda’r hyn maen nhw’n gallu ei gario. Ac mae hi’n aeaf yno, felly mae lot o’r anghenion gofal cynradd na angen ymateb.

“Wrth gwrs, mae gan y 13 elusen sy’n ymateb i gyd ffocws fymryn yn wahanol i’w gilydd.”

Mae gofal iechyd sylfaenol yn uchel ar restr yr apêl, ac fe fyddan nhw’n darparu meddyginiaethau ac offer meddygol gyda’r arian sy’n cael ei gasglu.

Bydd sicrhau mynediad at ddŵr glan yn flaenoriaeth hefyd, gyda gwaith trwsio isadeiledd sydd wedi ei ddifrodi yn mynd rhagddo.

‘Maen nhw angen bob cymorth’

Prydera DEC Cymru y bydd yr argyfwng yn gwaethygu, ac y bydd cymorth dyngarol yn fwyfwy pwysig dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Mae eisoes yn hanfodol, a’n rhagdybiaeth ni ydi bod yr angen yn mynd i gynyddu,” meddai Siân Stephen wedyn.

“Mae miliwn wedi ffoi ers dydd Iau, 24 Chwefror, ac mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes yn awgrymu y gallai hyd at 4 miliwn o bobol ffoi o’r wlad.

“Hefyd, mae yna bryderon fod hyd at 6.7 miliwn o bobol wedi cael eu dadleoli yn fewnol, a hynny allan o boblogaeth o dros 40 miliwn.

“Felly, mae’n sylweddol iawn faint o bobol sydd wedi gorfod codi pac, gadael eu swyddi a’u cartrefi, a chychwyn cyfnod hynod o ansicrwydd.

“Mae’n gyfnod hynod o anodd yn gorfforol ac emosiynol, ac maen nhw angen bob cymorth.”

Cyfrannu at yr apêl

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS, ac aelodau eraill o’r Senedd yn bresennol yn ystod y lansiad ar risiau’r Senedd heddiw,

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod nhw’n rhoi £4m mewn cymorth dyngarol i’r Wcráin.

Fe fydd y cymorth ariannol hwnnw’n mynd yn uniongyrchol i’r apêl newydd.

Mae pobol Cymru yn sefyll mewn undod gydag Wcráin a’i phobol,” meddai Mark Drakeford.

“Rydym yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.

“Mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) yng Nghymru wir angen ein cymorth. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud £4m ar gael i’r DEC er mwyn gallu rhoi cymorth ar fyrder i bobol Wcráin.

“Bydd hyn yn help i gynyddu’r ymateb gan wahanol sefydliadau sy’n gweithio yn Wcráin a chyflenwi teuluoedd gyda bwyd, dŵr, cymorth meddygol ac amddiffyniad.”

“Os ydych yn gallu helpu, cyfraniadau ariannol yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gefnogi’r argyfwng yma sy’n datblygu yn Wcráin.”

Dywed Siân Stephen fod gweld yr ymateb yng Nghymru hyd yn hyn yn “galonogol” a bod cymaint o bobol wedi dangos parodrwydd i “estyn llaw at bobol sydd mewn angen.”

O ran y rhoddion i’r apêl, mae hi’n dymuno darbwyllo pobol i roi arian yn gyntaf yn hytrach na nwyddau, er bod y rheiny’n cael eu gwerthfawrogi hefyd.

“Y rheswm am hynny yw bod gyrru cyfraniadau draw yn her logistaidd enfawr,” meddai.

“Mae’n rhaid sortio cyfraniadau, trefnu eu cludo nhw, ac yna’u dosbarthu nhw at y bobol sydd eu hangen nhw.

“Wrth ystyried pob teulu sy’n croesi’r ffin, dydy eu hanghenion nhw ddim am fod yr un fath.

“Rydyn ni’n trio rhoi arian parod i bobol, achos nhw sy’n gwybod orau beth maen nhw ei angen nawr, a does dim lle ganddyn nhw i gario mwy o bethau.

“Os ydy pobol wir eisiau rhoi cyfraniadau mewn da, maen nhw’n gallu eu rhoi nhw i siopau’r elusennau sy’n bartneriaid i’r DEC, ac mae hynny’n un ffordd rownd hynny.”

I gyfrannu, mae modd ymweld â’r wefan www.DEC.org.uk, neu ffonio’r rhif 0370 6060 900.

Gallwch hefyd anfon y neges destun ‘HELPU’ at 70150, sy’n cyfrannu £10 yn awtomatig.

Holl gynghorau Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i groesawu ffoaduriaid o’r Wcráin

“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi dychryn wrth weld y dinistr sy’n cael ei achosi yn yr Wcráin”