Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a chymorth dyngarol i’r Wcráin er mwyn helpu’r rhai mewn angen.
Fel Cenedl Noddfa, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Cymru’n barod i groesawu ffoaduriaid.
Hyd yn hyn, mae dros 660,000 o bobol wedi gadael yr Wcráin, ac mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gofyn iddyn nhw gryfhau’r trefniadau ar gyfer caniatáu i ffoaduriaid o’r wlad ddod yma mor sydyn a diogel â phosib.
Cafodd rali ei chynnal tu allan i’r Senedd neithiwr er mwyn dangos undod a’r Wcráin, a dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd heddiw (1 Mawrth) bod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda phobol yr Wcráin sy’n gwrthsefyll yr ymosodiad “direswm a chreulon”.
“Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu £4m mewn cymorth dyngarol ac ariannol i’r Wcráin, a fydd yn helpu i gynnig cefnogaeth angenrheidiol i nifer o bobol mewn angen,” meddai Mark Drakeford.
“Rydyn ni hefyd yn asesu offer meddygol sydd dros ben a allai fod o ddefnydd er mwyn eu hanfon i’r wlad.
“Mae Cymru, fel Cenedl Noddfa, yn sefyll yn barod i groesawu pobol sy’n ffoi o’r Wcráin.
“Fory byddwn yn cynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr awdurdodau er mwyn sicrhau bod paratoadau mewn lle i dderbyn ffoaduriaid.
“Dylai’r Deyrnas Unedig gadw at eu dyletswydd i ganiatáu i bobol ddod o hyd i ddiogelwch mewn sefyllfaoedd fel y rhai rydyn ni’n eu gweld heddiw gyda thristwch a ffieidd-dod mawr.”