Mae’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss wedi dod o dan bwysau i fynd i’r afael ag eiddo sydd wedi’u cofrestru gan Rwsiaid yn nhiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi rhwystro pob awyren sydd â chysylltiad â Rwsia rhag gwasanaethu o fewn ei awyrofod tra’u bod nhw’n parhau i geisio goresgyn yr Wcráin.

Dydy’r gwaharddiad hwnnw ddim yn berthnasol i diriogaethau fel Bermuda – un o diriogaethau Prydain yng Nghefnfor yr Iwerydd – er i ddata ddangos fod 713 o awyrennau sy’n berchen i Rwsiaid wedi eu cofrestru yno.

Honna Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mai ymgais i guddio arian anghyfreithlon ydy cofrestru’r awyrennau yno ac y dylid eu gwahardd nhw o’r ynysoedd.

Roedd hi hefyd yn crybwyll ystadegau gan Global Witness, a oedd yn nodi bod saith gwaith yn fwy o arian wedi cael ei gyfeirio o Rwsia i diriogaethau Prydeinig na’r Deyrnas Unedig ei hun yn y ddegawd hyd at 2018.

Dros y cyfnod hwn, mae’n debyg fod £68 biliwn wedi ei fuddsoddi mewn tiriogaethau fel Ynysoedd Prydeinig y Wyryf.

Ehangu sancsiynau

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Llun, 28 Chwefror), holodd Liz Saville Roberts AS a oedd cynlluniau i ymestyn y gwaharddiad i gynnwys y tiriogaethau tramor.

Liz Saville-Roberts

Roedd hi hefyd yn croesawu penderfyniad cwmni olew a nwy BP i waredu eu cyfran yn y  cwmni ynni o Rwsia, Rosneft.

“Mae sancsiynau rhyngwladol bellach yn cynnwys fflyd awyrennau sifil Rwsia,” meddai ar lawr y siambr yn San Steffan.

“Mae gan y Deyrnas Unedig ran i’w chwarae wrth eu cyfyngu ers ddoe, ond mae 713 o awyrennau ar brydles o Rwsia wedi’u cofrestru yn Bermuda – tiriogaeth dramor Brydeinig.

“Ers llawer rhy hir, mae rheoleiddio gwan y Deyrnas Unedig o ‘Londongrad’ a hafanau treth eu tiriogaethau tramor wedi hwyluso cyfundrefn Putin.

“Pa drafodaethau sydd wedi’u cael gyda Thiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig i sicrhau bod sancsiynau yn erbyn Rwsia yn cael eu gweithredu’n effeithiol ar unwaith?”

Mewn ymateb, dywedodd Liz Truss ei bod hi’n “gweithio’n agos gyda’r Tiriogaethau Tramor i sicrhau bod gan oligarchiaid Putin unman i guddio.”

Sancsiynau’n ‘cymryd gormod o amser’

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, rybuddio heddiw (dydd Mawrth, 1 Mawrth) bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cymryd gormod o amser” i osod sancsiynau.

Chris Bryant

Fe awgrymodd Bryant, sy’n aelod Llafur, fod oligarchiaid fel Roman Abramovich yn “ofni” wynebu mesurau o’r fath.

Dywedodd hefyd fod y Llywodraeth yn “hollol iawn” i ystyried gosod sancsiynau ar aelodau Duma – siambr isaf Cynulliad Ffederal Rwsia – yn ogystal â Chyngor Ffederasiwn Rwsia.

“Mae Alisher Usmanov eisoes wedi derbyn sancsiwn gan yr Undeb Ewropeaidd ond ddim gan y Deyrnas Unedig eto, ond rwy’n amau ​​​​y bydd ar restr Brydeinig yn fuan iawn,” meddai Chris Bryant AS.

“Yn sicr fe ddylai Everton (sy’n cael eu noddi gan gwmni Usmanov, USM Holdings) fod yn torri eu cysylltiadau ag ef eisoes.

“Ac o ran Roman Abramovich, wel, rwy’n meddwl ei fod wedi dychryn o’r bygythiad o sancsiynau, a dyna pam ei fod eisoes yn mynd i werthu ei gartref yfory, a gwerthu fflat arall hefyd.

“Fy mhryder i yw ein bod ni’n cymryd gormod o amser ynglŷn â’r pethau hyn.”

Ychwanegodd ei fod yn pryderu bod y Llywodraeth “yn ofnus o lythyrau cyfreithwyr gan yr holl oligarchiaid hyn”.

Mewn ymateb, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod pwyntiau Bryant “yn gwbl ddilys.”

“Mae’n cymryd amser, ac mae llawer o resymau cyfreithiol ac fe fydd yn ymwybodol o hynny, a bydd aelodau’r Tŷ yn gwybod hyn hefyd,” meddai.

“Dydw i ddim am dorri ar draws y gwaith y mae’r Swyddfa Dramor yn ei wneud ar hyn o bryd, ond mae llawer o waith manwl yn cael ei wneud ar sancsiynau, ac fe fydd llawer o hwnnw’n dod o flaen y Tŷ yn fuan.”