Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael gwared ar ofynion fisas ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, gyhoeddi heddiw (1 Mawrth), y bydd mwy o berthnasau pobol o’r Wcráin sy’n byw yn y Deyrnas Unedig yn cael dod yma am flwyddyn.

Bydd rhieni, neiniau a theidiau, plant sy’n oedolion, brodyr a chwiorydd, a’u teuluoedd agos yn cael dod i’r Deyrnas Unedig nawr.

Fe wnaeth Priti Patel gyhoeddi ei bod hi’n bosib i bobol o’r Wcráin sydd heb deulu yn y Deyrnas Unedig ddod yma drwy efeillio ag unigolion, elusennau, busnesau, neu grwpiau cymunedol drwy Lwybr Nawdd Dyngarol, hefyd.

Ond mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan am beidio mynd mor bell â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi gofyn am gael gwared ar ofynion fisas am dair blynedd i bobol o’r Wcráin.

Llai o gymorth nag Ewrop

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd a fyddai brodyr a chwiorydd sy’n oedolion a phlant sy’n ddibynnol arnyn nhw yn cael ymuno â’u teulu o’r Wcráin yn y Deyrnas Unedig, ac a fydd hi’n bosib i wyrion ac wyresau wneud yr un fath ar eu pennau eu hunain.

Cadarnhaodd Priti Patel y bydd brodyr a chwiorydd sy’n oedolion a’u plant, ac wyrion ac wyresau ar eu pennau eu hunain yn gallu dod i’r Deyrnas Unedig dan y rhaglen.

“Mae Plaid Cymru’n croesawu’r newyddion bod y Swyddfa Gartref yn deffro i annigonolrwydd ymateb cychwynnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r argyfwng ffoaduriaid diweddaraf,” meddai Ben Lake.

“Bydd ffoaduriaid o’r Wcráin nawr yn derbyn mwy o gymorth i gyrraedd y Deyrnas Unedig yn ddiogel.

“Wrth i ni aros am fwy o fanylion am y Llwybr Nawdd Dyngarol newydd, mae hi’n annhebygol y bydd yn cynnig yr un faint o gymorth ag sy’n cael ei gynnig gan wledydd eraill.

“Dydy nawdd gan unigolion a theuluoedd ddim yn cymryd lle rhaglenni hael sy’n cael eu harwain gan Lywodraethau megis y cynlluniau i gael gwared ar ofynion fisas sy’n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd.”

“Angen trawsnewid y system”

Mae gwledydd megis Gwald Pwyl, Hwngari a Moldofa wedi llacio eu rheolau fisas i bobol sy’n ffoi o’r Wcrain.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw am gryfhau’r system o groesawu ffoaduriaid hefyd.

“Mae cynllun y Swyddfa Gartref hefyd yn cynnwys gefeillio ceiswyr lloches gyda busnesau, sy’n codi’r cwestiwn a fydd hawl rywun am loches yn cael ei benderfynu ar sail ‘gwerth’ economaidd yn hytrach nag anghenion dyngarol pobol a’u gwerth cynhenid fel bodau dynol,” ychwanegodd Ben Lake.

“Fel y gwelsom ni gyda’r Cynllun Adsefydlu Affgan – dydy’r systemau cymhleth a chyfyngol hyn ddim yn cyd-fynd ag uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa.

“Rydyn ni angen trawsnewid ein system lloches ar frys fel bod y rhai sy’n dianc rhag erledigaeth yn cael eu croesawu â breichiau agored, yn hytrach na chael eu rhwystro ar bob cam o’r daith.”

Mark Drakeford

Cymru am roi £4m mewn cymorth dyngarol ac ariannol i’r Wcráin

Mark Drakeford wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gryfhau’r trefniadau ar gyfer caniatáu i ffoaduriaid o’r wlad ddod i’r Deyrnas Unedig