Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn “cytuno’n llwyr” bod angen cau bylchau i atal llongau o Rwsia rhag docio mewn porthladdoedd yng Nghymru.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a oedd yn mynegi pryderon am longau o Rwsia yn angori yma, er i Lywodraeth y Deyrnas Unedig osod sancsiynau

Fe gyrhaeddodd un llong borthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro dros y penwythnos ac, er mwyn osgoi cael ei hanfon o’r porthladd, mae’n debyg ei bod hi’n hedfan baner Ynysoedd Marshall.

Mae disgwyl y bydd llong arall yn cyrraedd ar hyd y Môr Baltig o borthladd Primorsk yn ddiweddarach yr wythnos hon, pe na bai’r cyfyngiadau yn cael eu cryfhau mewn pryd.

Dywedodd y porthladd yn Aberdaugleddau wrth y BBC “nad oedd ganddyn nhw’r grym i osod sancsiynau’n unochrog ar longau sy’n cyrraedd yno.”

“Rydyn ni’n deall ac yn rhannu cryfder y teimlad ynglŷn â llongau o Rwsia yn cyrraedd Porthladd Aberdaugleddau, yn enwedig gan fod ein tref â chysylltiadau cryf â’r Wcráin ers ei gefeillio â dinas Uman,” meddai’r harbwrfeistr, Mike Ryan.

‘Angen cau’r bylchau’

Yn sgil hynny, fe alwodd Adam Price ar Mark Drakeford i ategu’r alwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gryfhau’r sancsiynau.

“Ar hyn o bryd, mae llong sy’n cludo olew o Rwsia wedi ei docio yn Aberdaugleddau,” meddai ar lawr y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 1 Mawrth).

“Fe gyrhaeddodd hi yno ddydd Sadwrn (26 Chwefror) ac mae’r olew i fod i fynd i burfa olew Valero.

“Mae disgwyl i ail long, sydd hefyd yn cludo olew Rwsiaidd o borthladd llwytho olew Primorsk yn Rwsia, gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener (4 Mawrth).

“Nawr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi sancsiynau ar waith i atal llongau sydd wedi’u fflagio, wedi’u cofrestru, neu’n eiddo i Rwsiaid rhag cael eu hangori yn y Deyrnas Unedig, ond, fel yn yr achos hwn, maen nhw’n mynd o gwmpas hynny trwy ddefnyddio gwlad baner arall – sef yr Ynysoedd Marshall yn yr achos hwn.

“A ydych yn cytuno â fi bod angen cau’r bylchau hynny sy’n amlwg yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac na ddylai’r un diferyn o olew Rwsiaidd gael ei ddadlwytho yng Nghymru, drwy borthladd Cymreig, tra bod gwaed pobol ddiniwed yn cael ei golli yn yr Wcráin?”

Ymateb y Prif Weinidog

Mewn ymateb i hynny, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “cytuno’n llwyr” y dylai hynny ddim digwydd, a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio’n galed i gau’r bylchau.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio atal mynediad i borthladdoedd y Deyrnas Unedig gan longau sy’n defnyddio baner Rwsia,” meddai.

“Rwy’n credu ei bod hi’n anochel pan fydd Llywodraethau’n cymryd un cam […], y bydd ymdrechion yn cael ei wneud i geisio ei wyrdroi a mynd o’i gwmpas.

“Ond, pan mae’r bylchau hynny yn cael eu darganfod, bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu eto i wneud yn siŵr bod bwriad eu polisi, sef atal olew Rwsia rhag cael ei ollwng ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig, yn effeithiol.

“A phan fydd bylchau neu ffyrdd o gwmpas y rheolau sydd wedi eu gosod, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael y wybodaeth honno cyn gynted â phosibl ac wedyn yn gallu gweithredu yn eu herbyn ar unwaith.”

Gwaharddiad

Cafodd y gwaharddiad ar longau o Rwsia ei osod heddiw ar ôl i bryderon godi am long olew yn cyrraedd Ynysoedd Erch.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf i wahardd llongau gydag “unrhyw gysylltiad Rwsiaidd” rhag angori yn ei phorthladdoedd.

Mae hynny’n golygu mewn theori nad yw’r un o’r ddwy long sydd yn ceisio cyrraedd Aberdaugleddau yn gymwys rhagor i angori yno.

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd Sam Kurtz, sy’n cynrychioli’r rhanbarth o Sir Benfro i’r de o Aberdaugleddau, ddweud ei fod yn “falch” o’r newyddion.