Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn trafod sefyllfa’r Wcráin wrth ymweld â Brwsel ddydd Mercher (Mawrth 2) ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda gwleidyddion a diplomyddion.

Cafodd y cyfarfodydd eu trefnu fel rhan o raglen o ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac i ailddatgan perthynas Cymru â chenhedloedd a rhannau o Ewrop.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Mark Drakeford yn trafod y camau sydd wedi, ac yn, cael eu cymryd yng Nghymru i ymateb i ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin.

Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i fesur y cysylltiad rhwng cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru a buddsoddiadau a chynhyrchion ariannol yn Rwsia.

Mae Cymru’n barod i groesawu ffoaduriaid o’r Wcráin, meddai Llywodraeth Cymru, ac mae asesiadau ar y gweill i weld pa mor barod yw’r awdurdodau i dderbyn dinasyddion yr Wcráin.

‘Sefyllfa arswydus a dychrynllyd’

“Rwy’n eithriadol o bryderus am y sefyllfa arswydus a dychrynllyd yn Wcráin,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r gwrthdaro hwn yn digwydd yn Ewrop, ond ychydig y tu hwnt i ffiniau’r Undeb Ewropeaidd.

“Wrth i’r gwrthdaro ddatblygu yn y tymor byr a’r tymor canolig, mae’n debygol y bydd miliynau o bobl yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol mewn sawl ffordd am flynyddoedd i ddod.

“Mae trefn strategol Ewrop wedi newid ac efallai na fydd yn gwbl sefydlog am beth amser eto.

“Mae hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn bwysig nawr, efallai mwy nag erioed. Hoffwn bwysleisio ein hunaniaeth Gymreig fel gwlad Ewropeaidd sy’n rhannu gwerthoedd rhyddid, rhyddid i lefaru a ffordd o fyw heddychlon yn Ewrop.

“Rwyf eisiau adeiladu ar ein perthynas waith gref gyda’r Undeb Ewropeaidd i ddyfnhau ein partneriaethau sefydledig gydag Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau Ewropeaidd, ac adeiladu ar y partneriaethau hyn.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £4m mewn cymorth dyngarol ar gyfer Wcráin hefyd, drwy gyfuniad o gymorth ariannol uniongyrchol a chyfarpar meddygol.

Mark Drakeford

Cymru am roi £4m mewn cymorth dyngarol ac ariannol i’r Wcráin

Mark Drakeford wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gryfhau’r trefniadau ar gyfer caniatáu i ffoaduriaid o’r wlad ddod i’r Deyrnas Unedig