Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n effeithio cymunedau.
Bydd y cynlluniau yn argymell rhoi’r pwerau i gynghorau sir gynyddu premiwm treth cyngor i 300%, yn ogystal â diwygio’r system dreth ar gyfer lletyau gwyliau.
Daw’r newidiadau ar ôl i’r Llywodraeth Lafur, ar y cyd â Phlaid Cymru, lofnodi Cytundeb Cydweithio, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru.
Yn ôl y Llywodraeth, nod yr ymrwymiad yw “cymryd camau radical ar unwaith, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu”.
Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, yw’r Aelod Dynodedig ar gyfer y mater hwn, ac mae hi wedi bod yn trafod y cynlluniau gyda golwg360.
Codi’r premiwm
Yn weithredol o fis Ebrill 2023, fe fydd modd i gynghorau sir gynyddu eu premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i 300% – sy’n sylweddol uwch na’r uchafswm presennol o 100%.
“Y syniad efo hyn ydy bod cynghorau yn gallu defnyddio’r arian er mwyn creu cartrefi i bobol yn eu cymunedau,” meddai Siân Gwenllian.
“Rydyn ni’n gwybod bod ail gartrefi’n golygu bod pobol yn methu â chael cartref yn eu cymuned, ac mae hwn yn un ffordd o ddechrau taclo’r broblem yma.”
Ychwanega ei bod hi fyny i bob awdurdod lleol ymateb i broblemau sy’n codi, a bod y cam hwn yn rhoi’r opsiwn iddyn nhw.
Mae ei hetholaeth hi, Arfon, wedi ei lleoli yng Ngwynedd, sydd eisoes wedi codi eu premiwm nhw ar dreth y cyngor i’r uchafswm presennol o 100%.
Roedd hynny’n ymateb i’r ffaith mai yn y sir hon mae’r nifer uchaf o ail gartrefi yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cau bylchau yn y gyfraith
Newid arall sydd ar y gweill yw diwygio’r meini prawf ar gyfer newid y diffiniad lletyau gwyliau.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar sail rheoliadau drafft sy’n argymell newid diffiniad o lety hunanddarpar.
Ar hyn o bryd, mae eiddo sydd ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy’n cael ei osod am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.
Pe bai’r newid yn cael ei gadarnhau, byddai’r trothwyon hyn yn cynyddu, fel y byddai’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod fel llety gwyliau am o leiaf 252 diwrnod o’r flwyddyn, a chael ei osod am o leiaf 182 diwrnod, i barhau i dalu’r ardrethi busnes hynny.
“Beth sydd wedi bod yn digwydd yn draddodiadol ydy bod perchnogion wedi bod yn defnyddio bwlch neu fan gwan yn y gyfraith i osgoi talu’r dreth cyngor ac optio i mewn i system drethi busnesau bach,” meddai Siân Gwenllian ynglŷn â’r newid hwn.
“O wneud hynny, maen nhw’n gallu cael rhyddhad rhag talu’r trethi hynny.
“Mae hynny’n annheg iawn, ac mae angen mynd i’r afael â hynny.”
Yn y pen draw, mae bwriad i ddod â system drwyddedu fandadol ar gyfer lletyau gwyliau tymor byr hefyd yn un o’r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio.
‘Cam pwysig’
Fel mae Siân Gwenllian yn nodi, y camau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 2) yw’r “cyntaf o nifer o gamau” sy’n cael eu gosod yn y cytundeb.
“Mae o’n gam pwysig,” meddai.
“Mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru, drwy weithio efo Plaid Cymru ar y Cytundeb Cydweithio, yn dangos yr ewyllys i geisio mynd i’r afael â’r broblem.”
Yn ogystal â’r newidiadau hyn, mae’r cytundeb ar y cyd yn crybwyll newid y system gynllunio eiddo, cynyddu treth trafodion tir, ac yn y bôn, sefydlu papur gwyn ar gyfer deddfwriaeth i roi mwy o allu i ymyrryd ar y farchnad dai.
Mae ymgynghoriadau a thrafodaethau wedi bod ar y gweill yn ddiweddar dros y materion hyn, ac fe fydd mwy o ddatblygiadau am hynny maes o law.
Y gobaith yn y pen draw yw “rhoi’r hawl i bobol fyw yn eu cymunedau”, meddai wedyn.
“Rydyn ni ar daith yn fan hyn, ac mae’n rhaid ymgynghori a mynd drwy’r camau cyfreithiol.
“Ond mae hyn yn arwyddocaol, oherwydd ei fod yn cychwyn ni ar y daith honno.
“Mae’n dangos fod Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy’r Cytundeb Cydweithio i’n cymunedau ni, ac yn symud y drafodaeth ymlaen tuag at weithredu.
“Mae hi’n hen bryd newid y ddeddfwriaeth achos dydy o ddim yn adlewyrchu beth sy’n digwydd ar lawr gwlad.”