Mae elusen Chwarae Teg yn gofyn i bobol enwebu’r merched mwyaf rhyfeddol yn eu bywydau, wrth i Wobrau Womenspire ddychwelyd ar gyfer “dathliad sy’n cydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod eithriadol o bob cefndir”.

Mae’r gwobrau wedi cael eu rhoi ers saith mlynedd bellach ond am y tro cyntaf erioed, bydd y digwyddiad yn un hybrid, gyda’r noson yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd hefyd yn cael ei darlledu trwy Facebook Live ac ar dudalen Twitter ITV Cymru.

Daw hyn ar ôl digwyddiad rhithiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil y pandemig Covid-19.

Mae’r gwobrau eleni hefyd yn nodi dechrau partneriaeth dwy flynedd gyda Mencap Cymru a Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru, gyda Gwobr Cysylltydd Cymunedol yn cael ei chyflwyno i fenywod ag anableddau dysgu.

Nod y wobr hon yw annog mwy o bobol i enwebu menywod sydd ag anableddau dysgu ac ennyn hyder yn y menywod hynny i enwebu eu hunain.

Bydd gwobrau’n cael eu rhoi mewn naw categori, sef Hyrwyddwr Cymunedol, Menyw mewn Chwaraeon, Seren Ddisglair, Dysgwr, Entrepreneur, Arweinydd, Menyw mewn STEM, Menyw mewn Iechyd a Gofal a Gwobr Cysylltydd Cymunedol.

Bydd Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd hefyd – sy’n agored i unigolyn o unrhyw rywedd – i gydnabod eu hagwedd ragweithiol at gau’r bwlch rhwng y rhyweddau yn eu gweithle.

Bydd ymrwymiad sefydliadau a busnesau sy’n rhan o raglen Cyflogwr Chwarae Teg Chwarae Teg i gefnogi menywod i gyflawni a ffynnu hefyd yn cael ei gydnabod trwy Wobr Cyflogwr Chwarae Teg.

I enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022, neu am ragor o wybodaeth, ewch i www.chwaraeteg.com/womenspire. Mae’r enwebiadau’n cau am hanner nos ar 5 Ebrill 2022.

‘Gwefr’

“Mae’r wefr o amgylch Womenspire eleni eisoes yn amlwg, yn enwedig wrth i ni lansio’r Wobr Cysylltydd Cymunedol gyda Mencap Cymru,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg.

“Ac mae symud i fformat hybrid yn wirioneddol gyffrous gan y bydd yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd i ni – gall miloedd barhau i ymuno â ni o’u cartrefi eu hunain tra bod rhai pobl arbennig iawn hefyd yn gallu ymuno â ni’n bersonol yn y digwyddiad byw.

“Rwy’n annog pobol o bob cwr o Gymru, sy’n adnabod menyw ysbrydoledig, neu fusnes sy’n mynd yr ail filltir i fynd ati i’w henwebu.

“Rydyn ni eisiau clywed am gynifer o bobl ryfeddol â phosibl o bob rhan o’r wlad, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill.”

‘Positifrwydd a hunan gred’

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Chwarae Teg ac yn cefnogi Gwobrau Womenspire dros y ddwy flynedd nesaf,” meddai Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru.

“Mae gwaith anhygoel yn cael ei wneud gan fenywod ag anabledd dysgu ym mhob rhan o Gymru ac rydym am i’n Gwobr Cysylltydd Cymunedol godi ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth.

“Rydym hefyd yn gobeithio, trwy noddi gwobr benodol i fenywod ag anabledd dysgu, y byddwn yn cynyddu eu hyder i enwebu neu gael eu henwebu.

“Rwy’n gobeithio ei fod yn annog gwobrau’n gyffredinol i ddod yn fwy hygyrch i fenywod ag anabledd dysgu a’i fod yn arwain at feithrin positifrwydd ac ymdeimlad o hunan gred bod eu straeon mor ysbrydoledig ag unrhyw ddinesydd arall yng Nghymru.”

‘Cyfle anhygoel’

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn bartneriaid cyfryngau swyddogol unwaith eto i Wobrau Womenspire Chwarae Teg yn 2022 ac i ddathlu llwyddiannau gwych menywod yng Nghymru,” meddai Andrea Byrne, cyflwynydd rhaglen newyddion Wales at Six ar ITV Cymru.

“Does gan lawer o’r merched ddim syniad pa mor wych ydyn nhw felly mae’n gyfle anhygoel i ni allu rhannu eu straeon.

“Mae amrywiaeth a chynwysoldeb wrth wraidd popeth a wnawn yn ITV Cymru Wales ac rydym yn ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb rhywedd ac amrywiaeth yn ein rhaglenni a’n gweithlu.

“Drwy wneud hynny gallwn greu cynnwys sy’n berthnasol i’n cynulleidfaoedd a gweithle sy’n ffynnu ar greadigrwydd a chynwysoldeb.”