Mae cylchgrawn OK! dan y lach ar ôl cyfeirio at Gymru fel “rhanbarth”.

Daeth y camgymeriad mewn erthygl am ymweliad brenhinol William a Kate â Chymru ar Ddydd Gŵyl Dewi ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 1).

Dywedodd yr erthygl fod Kate “yn wên o glust i glust” ar fferm wrth i’r pâr ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2020, gan gyfeirio hefyd at y cyfnod pan oedden nhw’n byw ym Môn.

“Pwroas y daith heddiw, ddydd Mawrth 1 Mawrth, yw dathlu diwylliant y rhanbarth wrth iddo ddathlu Dydd Gŵyl Dewi,” meddai’r erthygl gan Niamh Shackleton.

Mae’r erthygl wedyn yn cyfeirio at Fferm Pant ger y Fenni, gan ddisgrifio’r hyn roedd Kate yn ei wisgo, gan gynnwys bathodyn pin Cymreig, ac yna at Farchnad y Fenni, Hwb Blaenafon.

Mae hefyd yn cyfeirio at eu hymweliad â Twickenham dros y penwythnos i wylio’r gêm rygbi fawr rhwng Cymru a Lloegr, gyda William yn noddwr Undeb Rygbi Cymru a’i wraig yn noddwr Undeb Rygbi Lloegr, gan olynu Harry, brawd ei gŵr, yn y rôl.

Ymateb

Mae’r erthygl, a’r neges ar Twitter yn cyd-fynd â hi, wedi ennyn ymateb chwyrn.