Dydy’r newidiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 2) gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai “ddim yn mynd ddigon pell”, meddai un ymgyrchydd.
Er bod Rhys Tudur, cyfreithiwr ac ymgyrchydd gyda Hawl i Fyw Adra, yn croesawu’r cynlluniau i allu cynyddu’r dreth gyngor i 300% ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag – sydd dair gwaith yn fwy na’r uchafswm presennol o 100% – mae’n poeni ei bod hi dal yn rhy hawdd i bobol droi ail dŷ yn llety gwyliau.
Mae newidiadau ar y gweill i ddiwygio’r meini prawf ar gyfer newid y diffiniad llety gwyliau, ond dydyn nhw ddim yn feini prawf anodd eu cyrraedd, meddai.
‘Gobeithio bod hwn yn dangos ffocws’
“Dw i’n croesawu bod yna ryw fath o reolaeth bellach ar ail dai, a gobeithio y bydd ail dai yn y stoc bresennol yn dod yn ôl i fwy o ddefnydd pobol leol,” meddai Rhys Tudur wrth golwg360.
“Mae rhai pobol yn cwestiynu pam bod y dreth wedi cael ei chodi, a’i fod o’n annheg, ond ar y llaw arall y ffordd mae llywodraethau wedi delio efo rhyw broblem erioed ydy drwy godi treth – os ydyn nhw’n gweld bod alcohol neu dybaco yn gwneud niwed, maen nhw’n codi’r dreth arnyn nhw.
“Yr un fath, dw i’n gobeithio bod hwn yn dangos ffocws rŵan ar drio gwneud rhywbeth am dwristiaeth sy’n gwbl anghynaladwy, a [mathau o dwristiaeth] sy’n fwy dinistriol na’i gilydd ar gymunedau.
“Dw i’n gobeithio y bydd yna shifft tuag at dwristiaeth sy’n fwy cynaliadwy, fel carafanau.
“Bydd yna lai yn penderfynu perchnogi tai haf, dyna’r arwyddocâd a chanlyniad codi’r dreth, gobeithio.”
Ychwanegodd Rhys Tudur y bydd y cynnydd i 300% yn golygu y bydd mwy o gyllid i gynghorau sir allu ei wario ar dai i bobol leol ac ar gymunedau.
“Mae yna bobol yn ddig, ond ochr arall y geiniog – os ydyn nhw’n gwneud drwg i gymunedau fel Cwm-yr-Eglwys lle does gen ti ddim tai ar ôl, mae hi’n hollbwysig bod yna dreth yn cael ei chodi i drio dadwneud y drwg yna, y patrwm bod y stoc dai wedi crebachu.”
“Ddim yn mynd ddigon pell”
Ond, mae gan Rhys Tudur bryderon bod y “loophole” yn dal i fodoli wrth i bobol newid tai yn llety hunanddarpar.
Ar hyn o bryd, mae eiddo sydd ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy’n cael ei osod am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.
Pe bai’r newid yn cael ei gadarnhau, byddai’r trothwyon hyn yn cynyddu, fel y byddai’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod fel llety gwyliau am o leiaf 252 diwrnod o’r flwyddyn, a chael ei osod am o leiaf 182 diwrnod, i barhau i dalu’r ardrethi busnes hynny.
“Er bod y meini prawf yn cael eu codi, proses o hunanardystio ydy hi’n dal i fod – eu bod nhw’n gosod o am y cyfnod yn y meini prawf newydd,” meddai Rhys Tudur.
“Mae’r broses honno’n gwbl fethiannus achos does gen ti ddim digon o graffu gan Awdurdod Cyllid Cymru i weld os ydyn nhw’n cael eu gosod, mewn gwirionedd, am y cyfnod.
“Be’ sydd ei angen yw system drwyddedu lle mae gen ti gorff llywodraethol, neu led-lywodraethol, yn cael ei greu sy’n craffu ar a ydy’r rhain yn llety gwyliau mewn gwirionedd.
“Mewn gwirionedd, dydy’r meini prawf newydd yma o orfod gosod am o leiaf 182 o ddiwrnodau dal ddim yn un anodd i’w gyrraedd.
“Mae hi ddigon hawdd cyrraedd y meini prawf yna, mae’n golygu eu bod nhw’n cael ei ddefnyddio fo hanner y flwyddyn a bod o’n gallu bod yn wag os ydyn nhw eisiau – sydd ddim digon uchel i brofi bod rhywbeth yn llety gwyliau.
“Mae o sicr i’w groesawu eu bod nhw wedi gweld yr angen i newid y meini prawf cyfredol, ond dydy o ddim yn mynd ddigon pell.”
‘Gweithredu rhy hwyr’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywed Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig, fod Llywodraeth Cymru’n methu â mynd at wraidd y broblem ac yn “cosbi” buddsoddiadau yng Nghymru.
“Mae’r argyfwng tai yn ganlyniad uniongyrchol blynyddoedd o lywodraethau Llafur olynol yn methu â chynnig cyfleoedd nac adeiladu digon o dai, gyda lefelau adeiladu tai yn is nag oedden nhw cyn datganoli,” meddai.
“Rydyn ni’n gweld Llywodraeth Lafur yn trio gweithredu’n rhy hwyr o lawer.
“Mae’r Llywodraeth Lafur hon yn methu â mynd at wraidd y broblem gyda’r argyfwng tai drwy fethu a chydnabod y ffaith bod yna, nes yn ddiweddar, fwy o dai gwag yng Nghymru nag ail dai.”
- DIWEDDARIAD: Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn pwysleisio eu bod nhw’n gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth ddatganoledig, sef Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), ar ran Llywodraeth Cymru. Nid ydynt yn ymwneud â gweinyddu’r dreth gyngor na chyfraddau busnes (cyfraddau annomestig).