Ymhlith y rhai cannoedd a oedd ar y Maes yng Nghaernarfon mewn gwrthdystiad yn erbyn y rhyfel yn yr Wcráin ddydd Sadwrn (26 Chwefror) roedd pobol a oedd yn wreiddiol o’r Wcráin ac o Rwsia.
Y siaradwyr yn annerch y dorf oedd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ar ran Plaid Cymru; Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon; a Gareth Roberts, sydd yn byw hanner y flwyddyn yn yr Wcráin, a’r hanner arall yn Nhrawsfynydd.
Addawodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon dros Blaid Cymru, yn ei anerchiad y byddai yn pwyso ar Lywodraeth Prydain yn San Steffan i gymryd camau cryfach i geisio rhwystro’r sefyllfa.
‘Cefnogol’
Eglurodd Gareth Roberts, sy’n byw mewn dinas o’r enw Horishni Plavnii yn ne ddwyrain yr Wcráin, pam fod y cyfarfod yng Nghaernarfon yn bwysig.
“I ddangos bod pob gwlad a chenedl yn Ewrop ac yn y byd yn gefnogol iawn i bobol yn Wcráin,” meddai wrth Golwg, wrth ochr ei wraig Nataliia. “Dyna’r prif reswm ro’n i’n hapus iawn i glywed bod yna gyfarfod yn mynd i fod yma heddiw.”
Mae ef a’i wraig yn gofidio am eu merch a’u mab-yng-nghyfraith a’u hwyres 11 oed sy’n byw yn yr un ddinas â nhw yn yr Wcráin.
“Un peth rydan ni’n lwcus ohono ydi ein bod ni’n gallu cadw mewn cysylltiad,” meddai Gareth Roberts, sy’n enedigol o Hwlffordd. “Os yw’r cysylltiad yna’n torri mae yna fwy o boen. Rydan ni’n siarad lawer gwaith y dydd efo’r ferch-yng-nghyfraith, a’r teulu a’r wyres.
“Dan ni’n byw mewn dwy fflat ar wahân, ond mae ganddon ni dacha, wedi ei wneud fyny dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae’r teulu wedi symud yn fanna rŵan. Mae ganddon ni podval – seler – ac maen nhw’n gallu cysgodi fan’no os yw rhywbeth yn digwydd.”
Fe fydd eu mab-yng-nghyfraith, fel dynion eraill rhwng 16 a 60 oed, yn aros i amddiffyn y wlad, ond mae gan fenywod, plant a phobol hŷn yr hawl i adael. “Mi wnawn ni drio cael y ferch a’r wyres i deithio drwy Slofacia,” meddai, “ac yn y cyfnod hirach i allu dod i Brydain.”
Rwsiaid yn “cywilyddio”
Roedd pobol o Rwsia hefyd yn y brotest ar Faes Caernarfon, fel Svetlana Hemminki-Emlyn, a gafodd ei magu bron ar y ffin a’r Wcráin ond sydd bellach yn byw ym Mhorthmadog.
“Dw i yn teimlo’n ddrwg iawn,” meddai. “Achos nawr mae dau frawd yn ymladd yn erbyn ei gilydd…. oherwydd un person gwallgo’, nad yw’n deall beth mae’n ei wneud mewn gwirionedd. Ni fydd neb yn ennill yn y rhyfel yma, mae’n sefyllfa mor erchyll nawr.
“Mae Rwsia fel un carchar mawr. A phob carcharor nawr yn mynd i ladd yn Wcráin, ac ni fydd yn stopio yn Wcráin, bydd yn mynd ymhellach. Mae’r holl wlad mewn perygl nawr, ni fydd yn stopio yn Wcráin. Bydd yn mynd i wledydd eraill.
“Dw i’n ddiolchgar iawn bod pobol yn dod i gefnogi. Gobeithio bod pawb yn deall beth sy’n digwydd. Mae’n beryglus, mae’n amser anodd iawn i ni. Dw i’n ddiolchgar am y gefnogaeth.”
Er nad oes llawer all y Cymry ei wneud, mae pob llais yn cyfri, yn ôl Svetlana Hemminki-Emlyn.
“Mae hyd yn oed un llais – f’un i, eich un chi – yn gallu dod yn rhan o lais mawr,” meddai. “Mae’n rhaid i ni gefnogi ein gilydd, deall ein gilydd a deall beth sy’n digwydd yn y byd. Os nad yw rhywun yn deall, mae angen ichi egluro’r sefyllfa.”
Mae ei merch Sonya Hemminki, sy’n medru’r Gymraeg, yn tristáu yn fawr am y sefyllfa.
‘Annheg’
“Er fy mod i’n Rwsieg, dw i yn teimlo embaras efo’r hyn sy’n digwydd rŵan,” meddai. “Dw i’n meddwl bod yr hyn sy’n digwydd gyda phobol yn Wcráin mor annheg.
“Mae Rwsia a Wcráin yn gweithio mor agos â’i gilydd. Roedden nhw’n frodyr ac yn awr mae Rwsia – nid Rwsia hyd yn oed, ond Putin – yn dinistrio’r Rwsiaid yn yr Wcráin, gan ddweud ei fod yn eu hachub. Mewn gwirionedd mae e’n lladd ei bobol ei hun yn Wcráin.
“Mae’n wirioneddol frawychus i mi. Mae gen i deulu yn Rwsia, dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Os na fyddwn yn ei rwystro fo rŵan, mae gwaeth yn mynd i ddod. Mae’n mynd i fynd ar ôl pawb, nid dim ond y gwledydd gwan. Mae’n mynd i fynd ar ôl pob gwlad. Mae gen i ofn mawr ar hyn o bryd.”
Fe hoffai Sonya Hemminki i’w theulu ddod o Rwsia i Gymru i fyw. “Maen nhw’n garcharorion yn Rwsia ar y funud. Dydyn nhw ddim yn cael mynd allan, ddim yn cael dweud dim byd. Mae pobol yn Rwsia yn llyncu’r propaganda, a dw i eisio dangos iddyn nhw be sy’n digwydd. Dw i ddim eisio mynd i Rwsia ar y funud, dw i jyst eisio nhw ddod yma.”