Mae rali’n cael ei chynnal o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd heno (nos Lun, Chwefror 28) i ddangos undod â phobol yr Wcráin.
Fe fu Svitlana Phillips o Lais Wcrain Cymru, arweinydd Plaid Cymru Adam Price, a Chwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw, sydd o dras Wcreinaidd, yn siarad yn y rali ac yn galw am ddod â’r gwrthdaro i ben.
Mae trafodaethau heddwch ar y gweill rhwng cynrychiolwyr o’r Wcráin a Rwsia ar hyn o bryd, ond dydy gobeithion Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd yr Wcráin, ddim yn uchel dros ben.
Ar bumed diwrnod y gwrthdaro heddiw, mae Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i lacio rheolau fisas ar gyfer ffoaduriaid o’r Wcráin.
Ynghyd â galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osod embargo economaidd llwyr ar lywodraeth Putin, mae Plaid Cymru’n galw am greu llwybrau sydyn i bob ffoadur o’r Wcráin.
“Yr wythnos diwethaf yr oeddwn yn Kyiv, lle clywais straeon dirdynnol y rhai sydd eisoes wedi bod yn byw o dan gyfundrefn ffasgaidd Putin,” meddai Adam Price.
“Nawr, mae wedi datgan rhyfel nid yn unig ar hawl cenedl Wcreinaidd i fodoli – ond ar ryddid, democratiaeth a hawliau dynol ym mhobman.
“Drwy ymgasglu heno, byddwn ni yng Nghymru yn dangos ein bod yn sefyll mewn undod llwyr â phobol yr Wcráin – ac yn erbyn rhyfel Putin.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osod embargo economaidd llwyr ar lywodraeth Putin gan gynnwys ar werthiannau olew a nwy, canslo dyled dramor Wcráin, a darparu statws preswylio ar gyfer fisa a llwybr carlam i bob Wcreiniad sy’n ffoi rhag rhyfel.
“Yn olaf, dylem ddangos ein bwriad i ddod â chyhuddiad yn erbyn Putin, Lavrov ac eraill am droseddu ymosodol fel y byddant yn cael eu dal yn atebol yn yr Hague ryw ddydd.”
Braint oedd cael ymuno ac eraill yn @SeneddCymru heno i ddangos undeb gyda Wcráin.
Mae Cymru yn barod fel Cenedl Noddfa i groesawu unrhyw un sydd angen cymorth ????????? https://t.co/PnzdRw7SID
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) February 28, 2022
‘Anfoesol’
Mae Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafan, yn galw am agor y cynllun fisas i “lawer mwy o bobol o’r Wcráin” hefyd.
“Mae hyn yn anfoesol,” meddai ar Twitter.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddarparu rhaglen fisa amddiffyn syml a sydyn ar frys i bob un o’r Wcráin sydd ei angen.”
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros hanner miliwn o ffoaduriaid wedi gadael yr Wcráin erbyn hyn.
Mae grŵp o 37 Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan, gan gynnwys Stephen Crabb, yr aelod dros Breseli Penfro, wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn galw arno i roi mwy o gefnogaeth i ffoaduriaid hefyd.
‘Ymosodiad ar ddemocratiaeth’
Dywed Mick Antoniw, a ddychwelodd o’r Wcráin ar ôl bod yno gydag Adam Price a chynrychiolwyr eraill yr wythnos ddiwethaf, fod rhaid sicrhau “boicot economaidd, gwleidyddol, a diwylliannol llwyr o Rwsia”, a rhoi cefnogaeth lawn i ffoaduriaid.
“Mae’r rhyfel yn yr Wcráin wedi dod yn rhyfel y bobol yn erbyn gormes Rwsia ac am ryddid,” meddai Mick Antoniw.
“Rhaid i ni sicrhau boicot economaidd, gwleidyddol a diwylliannol llwyr o Rwsia ac, o Gymru, rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i’r ffoaduriaid hynny sydd am ddod i Gymru er diogelwch.
“Rhaid i ni i gyd brotestio yn erbyn ymosodiad Rwsia ar ddemocratiaeth.
“Diolch i’r holl Gymry am eu cefnogaeth hyd yn hyn, ond mae llawer mwy i’w wneud dros y dyddiau tywyll nesaf sydd o’n blaenau. Fe fydd yr Wcráin yn rhydd!”
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fyddan nhw’n chwarae gemau rhyngwladol yn erbyn Rwsia ar unrhyw lefel o’r gêm am y tro, a thros y penwythnos, cafodd ralïau eu cynnal dros Gymru o Gaernarfon i Gaerdydd, o Aberystwyth i Abertawe, i gydsefyll â’r Wcráin.
‘Sefyll gyda’n gilydd’
Roedd Svitlana Phillips wedi annog pobol i beidio â gwylio’r newyddion heno, ond yn hytrach i fod yn rhan o’i greu drwy ymuno â’r rali yng Nghaerdydd am 6yh.
“Hoffwn annog pobol i ddod i’r rali heno yn y Senedd,” meddai wrth siarad cyn y rali.
“Ein prif bryder, ledled y byd, yw ein bod yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn yr hyn y mae Putin yn ei wneud yn Wcráin.
“Gellir gweld y gwrthsafiad i’r hyn y mae Putin yn ei wneud ar strydoedd Wcráin, ond rhaid i Putin hefyd weld ein bod i gyd yn tynnu at ei gilydd ledled y byd yn ei erbyn.
“Yn y dyddiau diwethaf, rwyf wedi derbyn galwadau wrth deulu sy’n dweud bod tanciau ar y ffin yn symud drwodd – mae ofn enfawr ar bobl.
“Nid yw pobol yn chwilio am esboniad bellach, maent am weld diwedd ar yr ymosodiad.
“Mae pobol yn yr Wcráin yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth gan y Deyrnas Unedig.
“Os safwn gyda’n gilydd, gallwn atal digwyddiadau erchyll a allai ddigwydd. Felly, hoffwn apelio ar bobl i beidio â gwylio’r newyddion heno, ond i fod yn rhan o’i greu.”
Tyrfa fawr yn y Senedd – Safwn gyda Wcrain pic.twitter.com/PkfFd4yjDg
— Dafydd Trystan (@DafyddTrystan) February 28, 2022