Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fyddan nhw’n chwarae gemau rhyngwladol yn erbyn Rwsia ar unrhyw lefel o’r gêm am y tro.

Dywed y Gymdeithas eu bod nhw’n “sefyll mewn undod gydag Wcráin” ac yn “teimlo tristwch enfawr a sioc” ynglŷn â’r sefyllfa yn y wlad.

Yn ddiweddarach, fe gadarnhaodd y Prif Weithredwr Noel Mooney fod hynny’n cynnwys timau a fydd yn cystadlu o dan yr enw ‘Undeb Bêl-droed Rwsia’ hefyd.

Mae FIFA wedi gorchymyn timau cenedlaethol y wlad i ddefnyddio’r enw hwnnw a pheidio â defnyddio’r faner drilliw, a bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae eu gemau ‘cartref’ mewn gwledydd niwtral.

Golyga hynny y bydd Rwsia i bob pwrpas yn rhydd i gyflawni eu gemau yn rownd ail gyfle Cwpan y Byd 2022 ddiwedd mis Mawrth.

Mae eu gwrthwynebwyr yn y gêm gyntaf, Gwlad Pwyl, yn ogystal â Sweden a’r Weriniaeth Tsiec, eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n herio Rwsia – ond dydy hi ddim yn glir a fydden nhw’n barod i herio’r tîm newydd.

‘Mae ein cefnogaeth gyda phobol Wcráin’

Bydd Cymru hefyd yn ymddangos yn y rowndiau ail gyfle, ac o bosib yn chwarae yn erbyn yr Wcráin pe bai’r ddau ohonyn nhw’n ennill eu gemau cyntaf.

Ond doedd dim byd ond cyfeillgarwch gan Gymru wrth iddyn nhw gyhoeddi na fyddan nhw’n herio Rwsia ddoe (dydd Sul, 27 Chwefror).

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn sefyll mewn undod gydag Wcráin a’n teimlo tristwch enfawr a sioc ynglŷn â’r datblygiadau diweddar yn y wlad,” medden nhw mewn datganiad.

“Mae CBDC yn condemnio’r defnydd o rym a’r erchyllterau sy’n cael eu cyflawni gan Rwsia wrth iddyn nhw oresgyn Wcráin.

“Penderfynodd CBDC na fyddai Cymru yn chwarae unrhyw gêm ryngwladol yn erbyn Rwsia am y dyfodol rhagweladwy, ar unrhyw lefel o’r gêm.

“Mae ein cefnogaeth gyda phobol Wcráin.”

Mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd Noel Mooney y byddan nhw’n ceisio rhoi pwysau ar UEFA a FIFA i atal unrhyw dîm o Rwsia rhag cael cymryd rhan mewn gemau cystadleuol yn y dyfodol agos.

‘Croesawu’r penderfyniad’

Mae nifer o bobol wedi croesawu’r safiad gan y Gymdeithas Bêl-droed, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Mae sawl un arall o Aelodau’r Senedd, megis Dawn Bowden, Jack Sargeant a Sam Kurtz, wedi llongyfarch y safiad hefyd.

“Safwn ysgwydd yn ysgwydd â dinasyddion [Wcráin],” meddai Yes Cymru.

Er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, does gan yr un o dimau cenedlaethol Cymru gemau wedi eu trefnu yn erbyn Rwsia ar hyn o bryd beth bynnag.

Ond gyda mwy a mwy o wledydd yn dewis peidio â chwarae yn eu herbyn nhw, mae’r pwysau’n cynyddu ar FIFA ac UEFA i gymryd camau difrifol i atal y Rwsiaid rhag chwarae.