Mae Criced Cymru, y corff sy’n gyfrifol am y gamp yng Nghymru, yn awyddus i sefydlu grŵp newydd fydd yn gyfrifol am “sicrhau bod criced yng Nghymru yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed i siaradwyr Cymraeg”.

Eu bwriad, meddai Criced Cymru, yw “cefnogi ein clybiau i gael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau”.

Bu Criced Cymru’n cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg am sawl blwyddyn gan dynnu sylw at eu hymdrechion a’u huchelgeisiau wrth gefnogi a defnyddio’r Gymraeg.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan bobol sydd am ymuno â nhw, ac yn annog pobol i anfon cyflwyniad o 150-200 o eiriau atyn nhw, naill ai ar bapur neu fideo, yn egluro pam eu bod nhw eisiau cael eu hystyried i ymuno â’r grŵp.

Mae disgwyl i unrhyw un sydd â diddordeb ymrwymo i ryw awr bob tri mis, ar ffurf Teams neu Zoom, am y 12 mis nesaf.

Y dyddiad cau i fynegi diddordeb yw Mawrth 17, a dylid anfon e-bost at info@cricketwales.org.uk gan nodi ‘Grŵp Cymraeg’ yn y testun.

‘Cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg’

“Rydym wedi gweithio’n galed yn y blynyddoedd diwethaf i wella ein harlwy Cymraeg,” meddai Gareth Lanagan ar ran Criced Cymru.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg mewn chwaraeon a’n rôl i helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Mae’r fenter hon yn gyffrous i Criced Cymru ac rydym yn awyddus i glywed gan selogion criced sy’n siarad Cymraeg.

“Trwy’r prosiect hwn, rydym yn gobeithio ymhen amser y bydd y Gymraeg yn rhan hyd yn oed yn fwy cynhenid ​​​​o griced ledled Cymru.”

Leisha Hawkins, prif weithredwr Criced Cymru

Cymraeg yn iaith chwaraeon: prif weithredwr Criced Cymru’n dysgu Cymraeg

Alun Rhys Chivers

Golwg ar bennaeth un o gyrff chwaraeon Cymru ar drothwy ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn iaith chwaraeon

‘Mr Criced’ eisiau Cymreigio’r gamp

Alun Rhys Chivers

Mae Gareth Lanagan wedi chwarae criced yn y de, y gogledd a’r gorllewin