Mae Steve Morison wedi addo “esblygu” Clwb Pêl-droed Caerdydd ar ôl llofnodi cytundeb newydd tan haf 2023.
Daw’r cytundeb newydd ar ôl i’r Adar Gleision guro Derby o 1-0 neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 1) – eu pumed buddugoliaeth mewn naw gêm.
Fe fu cyn-ymosodwr Cymru wrth y llyw dros dro ers mis Hydref a phan gafodd ei benodi, roedd yr Adar Gleision yn 21ain yn y Bencampwriaeth, ddau bwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp, ar ôl colli wyth gêm yn olynol cyn i Mick McCarthy adael y clwb.
Maen nhw bellach 16 pwynt uwchlaw Barnsley, sy’n 22ain yn y tabl.
‘Allwch chi ddim aros’
“Dw i wedi bod yn ymddwyn fel pe bawn i’n mynd i fod yma oherwydd allwch chi ddim eistedd yma ac aros,” meddai Steve Morison.
“Bydd y pethau dw i’n eu rhoi yn eu lle yn helpu’r clwb pêl-droed yn y tymor hir.
“Mae angen i ni esblygu fel clwb pêl-droed a symud oddi wrth le’r ydyn ni wedi bod oherwydd mae’r gêm yn newid.
“Rhaid i ni symud gyda’r newid, ac mae’r timau recriwtio a sgowtio yn gwybod pa fath o chwaraewyr rydyn ni eu heisiau.
“Byddai hi’r un peth pe bai rhywun arall yma.”