Mae James Rowberry, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi canmol ei dîm ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Forest Green Rovers, y tîm sydd ar y brig, neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 1).
Sgoriodd Finn Azaz i roi’r Alltudion ar y blaen cyn i Jack Aitchison gipio pwynt i’r ymwelwyr yn yr ail hanner.
Mae Casnewydd bellach yn safleoedd y gemau ail gyfle, tra bod Forest Green ddeg pwynt ar y blaen ar y brig.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi creu cyfleoedd da iawn,” meddai James Rowberry.
“Roedden ni’n wych wrth symud, ond roedd rhywbeth bach ar goll yn y traean olaf gyda’r cyfleoedd gawson ni.
“Dw i wrth fy modd gyda gwytnwch a chymeriad fy chwaraewyr.
“Mae’r ffordd maen nhw’n gweithredu’n wych.
“Dyna un o fy eiliadau mwyaf balch yn rheolwr ar Gasnewydd oherwydd fe wnaethon nhw gadw i fynd dro ar ôl tro.
“Roedd hi’n ddechrau gwych, yn gweddu i’r awyrgylch gyda phopeth a gafodd ei sefydlu ar ein rhan ni, gyda phopeth wnaeth y cadeirydd a’r bwrdd.
“Fe gawson nhw ddechrau gwych yn yr ail hanner pan gollon ni hi wrth symud, ond fe wnaethon ni ddangos pwy ydyn ni o ran ein cymeriad.”