Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd Cei Conna yn colli 18 o bwyntiau yng nghynghrair y Cymru Premier.
Roedd y Nomadiaid newydd drechu’r Drenewydd y penwythnos diwethaf, gan olygu y bydden nhw wedi chwarae yn erbyn clybiau hanner uchaf y gynghrair ar ôl iddi dorri’n ei hanner.
Yn dilyn y gosb, fe fydd y tabl felly’n cael ei ddiwygio, ac fe fydd Cei Conna, fydd yn safle rhif 11, yn chwarae clybiau hanner isaf y gynghrair, gan ddechrau’r ail ran o’r tymor yn safleoedd y gwymp.
Mae ganddyn nhw nawr 16 o bwyntiau am y tymor, a chwe phwynt yn llai na Hwlffordd, sydd yn y degfed safle.
Pe baen nhw’n disgyn i’r ail adran, nhw fyddai’r trydydd clwb mewn hanes i ennill y Cymru Premier a cholli eu lle yn y gynghrair yn y flwyddyn ddilynol – ar ôl Y Barri yn 2003-04 a’r Rhyl yn 2009-10.
Nhw oedd y pencampwyr yn 2019-20 a 2020-21.
Fe fydd clwb pêl-droed Caernarfon yn codi i’r chweched safle, ac felly’n chwarae timau hanner uchaf y gynghrair o’r penwythnos nesaf ymlaen.