Cafodd Gerwyn Price a Jonny Clayton noson siomedig yng Nghaerwysg neithiwr (nos Iau, Mawrth 3), wrth iddyn nhw golli yn rownd wyth olaf pedwaredd noson Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC.

Yr Iseldirwr Michael van Gerwen gipiodd y tlws ar ôl curo’r Albanwr Peter Wright o 6-0 yn y rownd derfynol.

Roedd e eisoes wedi curo Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, ynghyd â Michael Smith wrth iddo barhau i wella wrth i’r noson fynd yn ei blaen.

Dim ond tair gêm gollodd e ar y noson, ac mae e bellach yn yr ail safle yn y gynghrair, un pwynt y tu ôl i Wright.

Mae’r Albanwr ar y brig o hyd ar ôl curo Price a James Wade ar ei ffordd i’r rownd derfynol.

Fe hefyd yw pedwerydd enillydd un o’r nosweithiau eleni, gyda Wright, Clayton a Price i gyd wedi ennill un noson yr un.

Canlyniadau

Rownd yr wyth olaf

Jonny Clayton 1-6 Michael van Gerwen

Michael Smith 6-5 Joe Cullen

Gerwyn Price 2-6 Peter Wright

James Wade 6-4 Gary Anderson

Y rownd gyn-derfynol

Michael van Gerwen 6-2 Michael Smith

Peter Wright 6-2 James Wade

Y rownd derfynol

Michael van Gerwen 6-0 Peter Wright