Gallai gêm ail gyfle tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Awstria yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd gael ei gohirio pe bai FIFA yn penderfynu gohirio gêm yr Alban yn erbyn yr Wcráin, yn ôl prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Daw sylwadau Noel Mooney ar ôl i FIFA gadarnhau ddoe (dydd Iau, Mawrth 3) fod yr Wcráin wedi gwneud cais i ohirio’u gêm yn erbyn yr Alban yn Glasgow ar Fawrth 24.

Mae disgwyl i enillwyr y ddwy gêm herio’i gilydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

“Rydyn ni’n cynllunio i chwarae yn erbyn Awstria ar Fawrth 24 yn Stadiwm Dinas Caerdydd,” meddai Noel Mooney wrth BBC Radio Wales.

“Fe wnes i siarad â Rob Page [rheolwr Cymru] ddoe, ac rydyn ni’n barod am hynny.

“Ond wedyn daeth y newyddion fod yr Wcráin wedi gwneud cais i ohirio’r gêm tan fis Mehefin.”

Disgwyl i FIFA gymeradwyo’r cais

Mae pêl-droed wedi dod i ben yn yr Wcráin am y tro yn sgil y gwrthdaro â Rwsia, ac mae disgwyl i FIFA gymeradwyo’r cais i ohirio’r gêm ail gyfle yn Hampden Park.

“Tan i ni gael cadarnhad o hynny, fe allwch chi gymryd hynny,” meddai Noel Mooney am y posibilrwydd o ohirio gêm Cymru hefyd.

“Rydyn ni’n gwybod fod yr Wcráin wedi gofyn am ohirio tan fis Mehefin, ond gall y pethau hyn newid yn gyflym.

“Dw i wedi siarad â’m cydweithiwr Wcreinaidd ac fe fydda i’n siarad â fe eto.

“Byddwn ni’n sicr yn gwneud y penderfyniad cywir i bêl-droed ac i’n ffrindiau yn yr Wcráin, ac ar yr un pryd yn cydbwyso hynny â’r ffaith y byddem yn hoffi cymwyso ar gyfer ein Cwpan Byd cyntaf ers 1958.”