Mae ffigyrau ariannol newydd yn dangos bod dyled Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi codi i £109m y llynedd, gyda’r perchennog Vincent Tan wedi cynyddu ei fenthyciadau i’r clwb.
Mae cyfrifon diweddaraf y clwb yn nodi bod Caerdydd wedi cofnodi colledion o £11.15m yn ystod tymor 2020-21.
Bu cynnydd o £9m yn eu refeniw, gan godi i £55.18m, tra bod y bil cyflogau wedi gostwng £1.92m.
Ond mae’r Adar Gleision yn parhau i ddibynnu ar gefnogaeth eu cyfranddaliwr mwyafrifol, Vincent Tan, wnaeth roi benthyg £16m arall i’r clwb yn ystod y flwyddyn.
Mae ei fenthyciadau i’r clwb yn cael eu cofnodi yn y cyfrifon fel £60m, er ei fod wedi trosi £6.64m yn ecwiti ers hynny yn dilyn cynnig cyfranddaliadau newydd.
Roedd benthyciadau eraill dros y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 yn cynnwys £2m gan un o gyfarwyddwyr clwb, £15.8m gan gwmni cyllid sy’n gysylltiedig ag un o gyfarwyddwyr y clwb, a £6.24m yn ymwneud â benthyciad di-log gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr a gynigiwyd i gefnogi clybiau yn ystod y pandemig.
Mae nodiadau yn y cyfrifon yn datgelu bod y clwb wedi benthyg £22m arall ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, tra bod gwerth £3.1m o fenthyciadau wedi’u had-dalu.
Mewn datganiad a oedd yn cyd-fynd â’r cyfrifon, dywedodd cadeirydd anweithredol y clwb, Mehmet Dalman, fod “pwysau” a achoswyd gan y pandemig “yn amlwg wedi golygu ein bod wedi bod yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth ariannol ein perchennog Vincent Tan drwy gydol y cyfnod hwn”.
“Fel bwrdd a chlwb, rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein perchennog, a heb hyn byddai dyfodol y clwb yn edrych yn llawer mwy ansicr,” ychwanegodd.