Mae Gerwyn Price yn dal yn chwaraewr dartiau gorau’r byd yn ôl rhestr ddetholion y PDC, ar ôl iddo fe ennill y Bencampwriaeth Ryngwladol Agored yn Riesa dros y penwythnos.

Dyma’r trydydd tro i’r Cymro o Markham yn sir Caerffili ennill y gystadleuaeth, ac fe gipiodd e’r tlws ar ôl curo’r Albanwr Peter Wright o 8-4 gyda chyfartaledd tri dart o 106.95, tri sgôr o 180, dau dafliad o dros 100 i ennill gemau, a llwyddo gydag 88.9% o’i ddyblau.

Dyma’i drydydd tlws yn olynol ar y Daith Ewropeaidd, a’i chweched ar y cyfan.

Daw cyfle nesaf Peter Wright i geisio dadorseddu’r Cymro yr wythnos nesaf ym Mhencampwriaeth Agored y Deyrnas Unedig.

Y ffeinal

Taflodd Peter Wright 180 yn y gêm agoriadol i osod y safon, ond fe wnaeth e fethu â sgorio 81 i ennill y gêm, gyda Price yn llwyddo gyda dwbwl chwech i fynd ar y blaen.

Llwyddodd Wright gydag ymgais at 81 yr eildro i unioni’r sgôr ac ar ôl i Price fethu sgorio 150, aeth yr Albanwr ar y blaen o 2-1.

Sgoriodd Price 86 i unioni’r sgôr eto, 2-2, ac fe aeth e ar y blaen o 3-2 gyda thafliad o 108.

Methodd Wright â phum tafliad at ddwbl i unioni’r sgôr ac o fewn dim o dro, roedd Price ar y blaen o 6-4 er mai cyfartaledd o 103 oedd ganddo fe o’i gymharu â 107 Wright.

Methodd Wright â chyfle i atal Price rhag mynd ar y blaen o 7-4 wedyn, a dim ond un gêm oedd ei hangen ar y Cymro i gipio’r ornest, gan lwyddo gyda thafliad o 130 i fynd â’r tlws.

Ymateb

“Dywedais i wrth Peter y byddai’n rhaid iddo fe aros wythnos arall [i fod yn rhif un yn y byd],” meddai Gerwyn Price, a’i dafod yn ei foch.

“Roedd tipyn o bwysau arna i yn y ffeinal honno, gyda’r safle rhif un yn y fantol.

“Felly dw i’n falch ohonof fi fy hun heno.

“Dw i wedi chwarae yma bedair gwaith ac wedi ennill tair ohonyn nhw.

“Dw i’n diolch yn fawr iawn i’r dorf am y derbyniad wnaethon nhw ei roi i fi a’r ffordd y gwnaethon nhw gefnogi’r ddau chwaraewr yn y ffeinal.”