Nid oedd unrhyw ddiddordeb Cymreig yn y rownd derfynol fawr yn Wembley y penwythnos hwn wrth i Lerpwl herio Chelsea yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair. Ond roedd digon o Gymry yn brysur i’w clybiau wrth i gemau cynghrair barhau i bawb arall.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd hi’n Dan James yn erbyn Ben Davies ddydd Sadwrn wrth i Leeds deithio i Lundain i herio Spurs a thîm Davies a gafodd y gorau ohoni, yn ennill y gêm o bedair gôl i ddim. Gwnaeth Davies yn wych i atal gôl sicr i Stuart Dallas yn hwyr yn y gêm i ddiogelu’r llechen lân. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Joe Rodon i Spurs a Tyler Roberts i Leeds.

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi rhwng Burnley a Crystal Palace yn Turf Moor. Chwaraeodd Connor Roberts y gêm gyfan i Burnley ond ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey yn erbyn ei gyn glwb.

Nid oedd Fin Stevens yng ngharfan Brentford wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Newcastle.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Nid yw Abertawe’n chwarae tan nos Lun a cholli o gôl i ddim a wnaeth Caerdydd wrth i Fulham ymweld â Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn. Dechreuodd Will Vaulks a Rubin Colwill i’r Adar Gleision, gydag Isaak Davies yn dod i’r cae i orffen y gêm yn lle Colwill. Roedd Eli King ar y fainc ond nid oedd Mark Harris yn y garfan.

Dechreuodd Neco Williams a Harry Wilson y gêm i’r ymwelwyr a Wilson a greodd unig gôl y gêm i bwy arall ond Aleksandar Mitrovic, y Cymro’n croesi’n gywir at ben y Serbiad.

Fulham sydd ar frig y tabl a Bournemouth sydd yn ail ar ôl taro nôl i gipio’r tri phwynt yn erbyn Stoke. Aeth Stoke ar y blaen cyn i’r Cymro, Morgan Fox, gael ei anfon oddi ar y cae am dacl uchel ar Philip Billing. Roedd Joe Allen yn nhîm y Potters hefyd a James Chester ar y fainc ond Bournemouth a aeth â hi, gyda Chris Mepham yn gwneud ymddangosiad prin o’r dechrau yng nghanol yr amddiffyn. Mae Kieffer Moore yn parhau i fod wedi’i anafu.

Huddersfield sydd yn drydydd ar ôl curo Birmingham o ddwy gôl i ddim ac roedd Sorba Thomas yng nghanol popeth. Y Cymro a greodd y gôl agoriadol i Levi Colwill a daeth yn agos at ychwanegu trydedd ei hun yn yr ail hanner. Dechreuodd Jordan James i Birmimgham ond cael ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae QPR yn aros yn y chwech uchaf er gwaethaf colled yn erbyn Blackburn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd George Thomas wrth iddi orffen yn gôl i ddim ym Mharc Ewood. Luton sydd yn cwblhau’r chwech uchaf yn dilyn buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Derby a llechen lân i Tom Lockyer yng nghanol yr amddiffyn. Nid oedd y Tom arall, Lawrence, yn nhîm Derby oherwydd gwaharddiad.

Mae Nottingham Forest o fewn cyrraedd y safleoedd ail gyfle yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim dros Birmingham. Creodd Brennan Johnson argraff unwaith eto, yn agor y sgorio cyn yr egwyl. Dechreuodd Jordan James y gêm i’r gwrthwynebwyr.

Roedd Andrew Hughes a Ched Evans yn nhîm Prreston wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Coventry.

Colli a fu hanes Neil Taylor gyda Middlesbrough yn Barnsley. Cafodd yr ôl-asgellwr ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i’w dîm golli o dair i ddwy.

Colli a wnaeth Rhys Norrington-Davies hefyd wrth i Sheffield United deithio i Millwall. Un i ddim y sgôr terfynol o blaid y tîm cartref ond mae Tom Bradshaw yn parhau i fod allan gydag anaf.

Ar y fainc yr oedd Dave Cornell i Peterborough wrth iddynt golli’n drwm yn erbyn Hull.

 

*

 

Cynghreiriau is

Mae rhediad da diweddar Wes Burns yn yr Adran Gyntaf yn parhau wedi i gôl hwyr y Cymro achub pwynt i Ipswich yn erbyn Morecambe ddydd Sadwrn. Un gôl yr un oedd hi ond nid oedd Lee Evans yn y garfan.

Sgoriodd Sam Vokes gôl gynnar wrth i Wycombe fynd ar y blaen yn Accrington ond colli fu ei hanes ef a Joe Jacobson yn y diwedd wrth i’r tîm cartref daro nôl i ennill o dair i ddwy.

Cafwyd un o gemau mwyaf cyffrous y penwythnos yn Portsmouth wrth iddi orffen yn gyfartal tair gôl yr un rhyngddynt a Fleetwood. Roedd Joe Morrell yn ôl i Pompey yn dilyn gwaharddiad a dechreuodd Ellis Harrison i Fleetwood yn erbyn ei gyn glwb. Ar y fainc yr oedd Louis Thompson i’r tîm cartref ond nid oedd Kieron Freeman yn y garfan.

Dechreuodd Chris Gunter ac Adam Matthews i Charlton yn erbyn Sheffield Wednesday, Gunter fel un o dri yn y cefn a Matthews fel ôl-asgellwr. Ond bu rhaid i Matthews adael y cae wedi hanner awr oherwydd anaf.

Roedd dau Gymro rhwng y pyst wrth i Crewe ymweld â Cheltenham, Owen Evans i’r tîm cartref a Dave Richards i’r ymwelwyr. Buddugoliaeth brin i Crewe a oedd hi, o ddwy gôl i un, gyda Tom Lowery yn chwarae yng nghanol cae hefyd. Roedd Ben Williams yn nhîm Cheltenham.

Colli o ddwy gôl i ddim a wnaeth Bolton oddi cartref yn erbyn yr MK Dons. Dechreuodd Gethin Jones, Declan John a Jordan Williams y gêm i Bolton ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith i MK Dons.

Dechreuodd James Wilson i Plymouth a daeth Ryan Broom a Luke Jephcott oddi ar y fainc wrth i Plymouth golli o gôl i ddim yn erbyn Rotherham.

Roedd Regan Poole yng nghanol amddiffyn Lincoln wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Gillingham ond eilydd hwyr a oedd yr ymosodwr, Liam Cullen.

Colli’n drwm a wnaeth Wigan yn erbyn Sunderland, gyda Gwion Edwards yn dechrau’r gêm i’r Latics.

Yn yr Ail Adran, roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i un i Salford yn erbyn Swindon. Tom King a oedd yn y gôl i Salford a gôl Liam Shephard a wnaeth unioni’r sgôr toc wedi’r awr. Dechrau ar fainc Swindon a wnaeth Jonny Williams cyn dod i’r cae fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Aaron Lewis a sgoriodd y gyntaf o bedair gôl Casnewydd mewn buddugoliaeth o bedair i ddwy yn erbyn Tranmere.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Emyr Huws yng ngêm Colchester.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Nid oedd Ryan Hedges na Marley Watkins yng ngharfan Aberdeen ar gyfer eu gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Dundee United yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Fe wnaeth Dylan Levitt ddechrau i’r gwrthwynebwyr ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf toc cyn yr egwyl.

Dechreuodd Ben Woodburn fuddugoliaeth Hearts o ddwy gôl i ddim yn erbyn St Mirren ond roedd eisoes wedi cael ei eilyddio cyn i’r goliau gael eu sgorio.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Morgan Boyes wrth i Livingston gael buddugoliaeth gyfforddus yn Dundee ac nid oedd Alex Samuel yng ngharfan Ross County wrth iddynt wynebu St Johnstone.

Daeth Christian Doidge ymlaen fel eilydd cynnar wrth i Hibs wynebu Celtic ddydd Sul. Gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi.

Roedd Aaron Ramsey yn absennol wrth i Rangers gael noson gofiadwy yn Ewrop ganol wythnos, yn cael gêm gyfartal yn erbyn Borussia Dortmund i sicrhau eu lle yn 16 olaf Cynghrair Europa. Ac roedd y Cymro allan o’r garfan ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Motherwell ddydd Sul hefyd.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, ar y fainc yr oedd Owain Fôn Williams ar gyfer gêm ddi sgôr Dunfermline gyda Kilmarnock.

Nid oedd Gareth Bale yng ngharfan Real Madrid wrth iddynt guro Rayo Vallecano yn La Liga nos Sadwrn ac nis oedd James Lawrence yng ngharfan St Pauli wrth iddynt hwy drechu Ingolstadt yn y 2. Bundesliga yn yr Almaen.

Chwaraeodd Rabbi Matondo wrth i Cercle Brugge gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Mechelen ym mhrif adran Gwlad Belg.

Roedd Ethan Ampadu yn nhîm Venezia wrth iddynt golli o dair gôl i un yn erbyn Verona ddydd Sul, canlyniad sydd yn eu rhoi yn safleoedd disgyn Serie A.