Mae hi’n “galonogol” gweld “Rwsiaid dewr” yn protestio yn erbyn y rhyfel yn yr Wcráin, yn ôl Jenny Mathers, Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae pobol wedi bod yn protestio yn eu miloedd mewn dinasoedd megis Mosgo a St Petersburg yn dilyn ymosodiad Rwsia ar ei chymydog.

Ac er ei bod hi’n dweud ei bod hi’n falch o weld pobol yn gwrthwynebu’r rhyfel, dywed Jenny Mathers ei bod hi’n “sypreis” gweld y protestiadau ar raddfa mor eang.

Mae’r arbenigwr ar wleidyddiaeth Rwsia hefyd yn rhybuddio nad dyma derfyn uchelgais Rwsia yn nwyrain Ewrop.

“Mewn ffordd, mae o’n sypreis gweld nhw ar y ffasiwn raddfa,” meddai wrth golwg360.

“Mae Putin wedi bod yn effeithlon iawn yn gormesu unrhyw un sy’n ei wrthwynebu, boed hynny’n Alexei Navalny a gafodd ei anfon i’r carchar, pleidiau neu fudiadau gwleidyddol neu’r wasg rydd.

“Mae unrhyw un allai herio ei awdurdod neu’r hyn mae e’n ceisio ei wneud wedi cael eu gwasgu’n effeithlon dros ben.

“Felly mae’n galonogol iawn gweld cymaint o Rwsiaid dewr yn mentro allan i leisio eu gwrthwynebiad i’r rhyfel.

“A dw i ddim yn siŵr a oedd Putin a’i gyfoedion yn disgwyl gymaint o wrthwynebiad, er eu bod nhw wedi llwyddo i ddarparu eu lluoedd diogelwch yn eithaf cyflym i geisio delio â’r protestwyr.

“Mae yno risg bersonol yn dod â phrotestio, ar hyn o bryd yn ôl y gyfraith mae gan bobol hawl i gynnal protest yn Rwsia, ond wrth gwrs mae’r bobol hynny wedi bod yn cael eu harestio.”

Effaith y brotest

“Wrth droi at effaith y protestio, dyw e ddim y math o beth lle mae rhai miloedd o bobl yn mynd allan i’r stryd ac mae Putin yn dweud: “O diar, mae hi ar ben arna i, dyw pobl ddim yn licio’r rhyfel,” meddai wedyn.

“Dyw e’n amlwg ddim yn mynd i weithio fel yna.

“Fodd bynnag, dw i’n credu bod y ffaith fod yn wrthwynebiad i’r pethau erchyll hyn yn arwydd i bobl eraill yn Rwsia sydd yn anhapus â’r rhyfel nad ydyn nhw ar be eu hunain.

“Mae’n dangos bod yno ystod fwy eang o bobl yn gwrthwynebu’r rhyfel, ac mae hynny yn bwysig oherwydd mae hynny yn annog pobl wnaeth efallai ddim lleisio eu gwrthwynebiad i wneud hynny yn y dyfodol am ei bod nhw’n gweld bod eraill o’r un farn â nhw.

“Dw i hefyd yn credu bod elfen o Putin sy’n sensitif i farn pobol ar lawr gwlad.

“Yn amlwg ddim yn yr un modd â gwleidyddion mewn gwledydd democrataidd sy’n ddibynnol ar etholiadau rhydd a theg.

“Ond er hynny, mae Putin wedi bod yn boblogaidd gyda’r mwyafrif o Rwsiaid cyffredin, yn enwedig pobol hyn a phobol o gefn gwlad, pobl sydd ag agweddau mwy ceidwadol ac yn y blaen.

“Mae wedi cael ei weld fel rhywun sydd wedi dod ffyniant a pharch i Rwsia.

“Felly os yw’n troi allan ei fod wedi cymryd cam trychinebus sy’n golygu diwedd ar ffyniant i Rwsia a diwedd ar Rwsia’n cael ei pharchu fel pŵer mawr ar draws y byd, tra hefyd yn costio llawer o fywydau Rwsiaid ifanc sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, bydd y rhain i gyd yn bethau fydd yn effeithio ar ei boblogrwydd.

“Ac os yw e’n colli hynny, bydd e’n arwyddocaol.”

Jenny Mathers, Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Putin ag uchelgeisiau y tu hwnt i’r Wcráin?

Yn ôl Jenny Mathers, mae gan Putin uchelgeisiau y tu hwnt i’r Wcráin, ond dyw hi ddim yn siŵr a fydd e’n gallu eu cyflawni.

“Mae ei rethreg pan wnaeth e annerch cyhoedd Rwsia nos Lun yn sicr yn awgrymu hynny,” meddai.

“Bu’n trafod gwledydd eraill oedd ddim â’r hawl i fodoli, nid yn unig yr Wcráin, y gwledydd oedd yn arfer bod yn rhan o’r Undeb Sofietaidd.

“Roedd yn dweud eu bod yn arfer bod yn rhan o’r ymerodraeth Rwsiaidd a sut gwnaeth Lenin gamgymeriad drwy roi’r sail iddynt hawlio annibyniaeth.

“Fodd bynnag, does gan Rwsia ddim adnoddau diddiwedd ac os ydyn nhw’n llwyddiannus yn cipio’r Wcráin i gyd, neu’r rhan fwyaf ohono, dim ond y cam cyntaf yw hwnnw.

“Bydd yn rhaid iddyn nhw gadw rheolaeth dros y wlad.

“Rydyn ni wedi gweld pa mor anodd yw cadw rheolaeth o wlad sydd wedi’i choncro sawl gwaith o’r blaen, yn enwedig os oes gwrthdaro yn dal i ddigwydd.

“Dyw hi ddim yn hawdd newid y gyfundrefn, a dyma rydyn ni’n cymryd y mae e am ei wneud y Kyiv, cael gwared ar y Llywodraeth bresennol a gosod cyfundrefn byped mewn pŵer i fod o blaid Rwsia.

“Felly dw i’n amau y bydd ei luoedd yn brysur iawn yn ceisio cadw rheolaeth ar yr Wcráin am gryn dipyn o amser.

“Byddai hynny yn amharu ar allu ei luoedd i goncro gwledydd eraill yn yr ardal.

“Ac wrth gwrs mae nifer o’r hen wledydd Sofietaidd yr oedd e’n cyfeirio atyn nhw bellach yn rhan o NATO, ac un o’r pethau sy’n sicr o ddigwydd o ganlyniad i’r rhyfel hwn yw bod NATO yn cryfhau ei lluoedd arfog yn sylweddol ar draws yr aelodau dwyreiniol – y rhai sydd agosaf at Rwsia ac sy’n teimlo o dan fygythiad.

“Yn sicr, mae gan Putin uchelgeisiau mwy na’r Wcráin, ond dw i ddim yn siŵr a fydd e’n gallu eu cyflawni.”

A gafodd yr Wcráin ddigon o gefnogaeth?

Ydy NATO wedi rhoi digon o gefnogaeth i’r Wcráin, felly?

“Mae NATO wedi rhoi cryn dipyn o gefnogaeth i’r Wcráin mewn amryw o ffyrdd dros yr wyth blynedd diwethaf,” meddai.

“Maen nhw wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth yr Wcráin ar bethau megis offer, hyfforddiant ac yn y blaen.

“Ond mae’n debyg mai’r cwestiwn mawr ydi a ddylai NATO fod wedi ymyrryd yn yr Wcráin? Ac mae yno ddau begwn y mae pobol yn disgyn wrth ateb y cwestiwn hwn.

“Mae rhai yn dadlau na ddylai NATO erioed fod wedi ystyried gadael i’r Wcráin ymuno oherwydd mai dyna o le mae’r anghydfod yn hanu.

“Ar y llaw arall, mae eraill yn dadlau pe bai’r Wcráin wedi cael ymuno yn gynharach, yna bydden nhw wedi bod o dan warchodaeth NATO a byddai Rwsia ddim wedi meiddio gwneud hyn.

“Felly mae yno gwestiynau ynglŷn â pherthynas NATO gyda’r Wcráin, ond does dim consensws clir ar beth ddylai hynny wedi bod.”

“Lot o nerfusrwydd” yn y Ffindir a Sweden

Wrth iddi ddod i’r amlwg y bydd y Ffindir a Sweden yn mynychu cynhadledd NATO heddiw (dydd Gwener, Chwefror 25), a’r sôn y gallai’r ddwy wlad geisio ymuno â’r mudiad, dywed Jenny Mathers y bydd Rwsia’n “dilyn y sefyllfa yn agos iawn”.

“Dyw e ddim yn anghyffredin i’r Ffindir a Sweden gymryd rhan mewn cynhadledd NATO,” meddai.

“Ond yn amlwg yn y cyd-destun hwn mae’n fwy arwyddocaol.

“Yn sicr, mae swyddogion Rwsiaidd i bob pwrpas wedi bod yn bygwth y Ffindir a Sweden i beidio ystyried ymuno â NATO ers tro, gan rybuddio y byddai pethau erchyll yn digwydd iddyn nhw.

“Dw i’n siŵr y bydd Rwsia’n dilyn y sefyllfa yn agos iawn.

“Ond o ran y Ffindir a Sweden, mae’n eironig oherwydd mae’n ymwneud â rhywbeth rydan ni’n astudio mewn cydberthynas gwledydd o’r enw ‘The Security Dilema’.

“Hynny yw, y mwya’ rwyt ti’n ceisio sicrhau dy ddiogelwch rhag gwlad allai fod yn fygythiad heb wybod yn sicr beth yw bwriadau’r wlad honno, rwyt ti’n dod drosodd fel mwy o fygythiad i’r wlad honno am dy fod di eisiau amddiffyn dy hun.

“O ganlyniad i hynny wedyn, mae’r wlad yn peri mwy o fygythiad i ti.

“Dyma yw beth rydyn ni wedi ei weld, mae gan Rwsia ofn cynghrair NATO gryf ond eto dyma beth mae gweithredoedd Rwsia yn ei greu.

“Dyw hi ddim yn amhosib y bydd y Ffindir neu Sweden yn ymuno â NATO, ond dyw e ddim o reidrwydd yn mynd i ddigwydd.

“Ond yn sicr, mae yno lot o nerfusrwydd yn y ddwy wlad honno ynglŷn â Rwsia.”

‘Sancsiynau ddim yn fwled arian’

Wrth i wledydd y byd baratoi sancsiynau enfawr ar Rwsia, faint o gosb maen nhw’n eu cynrychioli i Rwsia?

“Mae’n anodd dweud gyda sancsiynau,” meddai Jenny Mathers.

“Mae sancsiynau yn bethau anodd i’w trin yn effeithiol, maen nhw’n fwy o ergyd drom.

“Maen nhw hefyd yn cymryd peth amser i gael effaith.

“Y peth arall i’w ystyried yw’r ffaith bod Rwsia wedi bod o dan sancsiynau economaidd ers 2014, pan ddaru nhw gipio’r Crimea felly mae’r boblogaeth a’r economi i raddau wedi addasu i lefel benodol o sancsiynau.

“Er enghraifft, mae’r wlad wedi sefydlu perthynas agosach gyda gwledydd fel Tsieina ac eraill.

“Felly nid yw sancsiynau yn fwled arian y mae pawb eisiau iddynt fod.

“Mae hefyd angen ystyried rhethreg Putin ynglŷn â sancsiynau, a’r rhesymau y tu ôl iddynt.

“Mae Putin wedi bod yn dweud bod dim ots beth mae Rwsia yn ei wneud gyda’i pholisi tramor, bydd y Gorllewin wastad yn ffeindio esgus i osod sancsiynau, maen nhw’n mynd i’n cosbi ni beth bynnag, maen nhw eisiau ein dinistrio.”