Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgelu cynlluniau i sicrhau y bydd pob disgybl yn y sir yn derbyn addysg drochi cyfrwng Cymraeg nes y byddan nhw’n saith oed.
Bwriad y Cyngor yw cyflawni hynny erbyn y bydd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn dod i ben yn 2032.
Fel rhan o’r cynlluniau, fe fydd darpariaeth Gymraeg yn cynyddu yn yr ysgolion cynradd ardal Aberystwyth sydd un ai’n ddwyieithog neu’n Saesneg yn unig, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Ceinewydd.
Hefyd yn Aberystwyth, bydd canolfan trochi iaith newydd yn cael ei hagor ar safle’r Ysgol Gymraeg, a bydd 30 o lefydd ychwanegol ym meithrinfa’r ysgol honno.
Y gobaith yw y bydd hyn oll yn hybu disgyblion i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn addysg o saith oed ymlaen, pan fyddan nhw’n rhugl yn yr iaith.
Yn ogystal, mae’n fwriad cynyddu’r nifer o athrawon a staff dysgu sy’n medru’r Gymraeg, a chynyddu addysg Gymraeg i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu.
Mae’r cynllun strategol yn rhan o’r ymgais genedlaethol i geisio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, sydd â ffocws mawr ar addysg.
‘Cynyddu dewis y disgybl’
“Mae cymeradwyo’r cynllun heddiw yn garreg filltir bwysig i’n helpu i osod sylfaen ragorol i’n disgyblion wrth siarad a chyfathrebu yn Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth.
“Bydd yn cynyddu dewis y disgybl i ddilyn trywydd cwbl ddwyieithog drwy weddill ei yrfa addysgol ac wrth wynebu byd gwaith a bywyd cymdeithasol yn y dyfodol.
“Ar yr un pryd, bydd y cymunedau o amgylch ein disgyblion a’n hysgolion yn elwa o’r ymdrech gynyddol hon i gryfhau’r Gymraeg yng Ngheredigion fel iaith gymunedol.”