Mae’r hyn oedd wedi achosi’r llifogydd yn Nhreorci yn ystod Storm Dennis ddwy flynedd yn ôl wedi ei ddatgelu.

Mae adroddiad newydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon yn dweud mai’r prif beth oedd wedi achosi’r llifogydd oedd “dŵr ffo sylweddol dros y tir” wnaeth lifo o’r bryniau serth dros dref Treorci.

Llifodd y dŵr i dir isel drwy gyfres o lwybrau dŵr oedd wedi gorlenwi â dŵr a charthion, ac fe orlifodd dan gryn bwysau, yn ôl yr adroddiad.

Fe wnaeth Storm Dennis achosi llifogydd mewn 44 eiddo yn Nhreorci, gan gynnwys pedwar eiddo masnachol, ac ar y ffyrdd.

Cafodd cyflwr a pherfformiad pedair cilfach ffosydd oedd wedi’u hadnabod fel ffynhonnell o lifogydd i eiddo ei asesu, a daethpwyd i’r casgliad nad oedd tair cilfach yn gysylltiedig â rhwydwaith Nant Tyle-du “yn darparu safonau digonol o warchodaeth”, meddai’r adroddiad.

Tra bod rhwystrau wedi’u hachosi gan garthion wedi’i bennu fel prif achos y cilfachau’n gorlifo, dywed yr adroddiad y bydden nhw wedi gorlifo yn y stormydd beth bynnag, yn seiliedig ar asesiad capasiti.

Doedd dim modd cynnal asesiad ar gyfer pedwaredd gilfach yn gysylltiedig â Nant Coly ond ar sail cyflwr gwael y strwythur, daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y gilfach wedi gorlwytho â dŵr yn ystod y storm.

Camau gweithredu

Dywedodd yr adroddiad fod y Cyngor, fel y prif awdurdod llifogydd lleol, wedi cynnal 15 o weithredoedd wrth ymateb, a bod tair arall ar y gweill.

Roedd y rhain yn cynnwys gwaith glirio strwythur cilfachau a gafodd eu pennu fel ffynhonnell llifogydd ac archwilio, chwistrellu a glanhau oddeutu 1673 metr o rwydwaith llwybrau dŵr yn yr ardal.

Mae hefyd wedi arwain ar ddatblygu ystafell reolli ganolog i ddarparu ymateb “cynhwysfawr a deallus” i drigolion yn ystod stormydd ac wedi dechrau prosiect gwrth-lifogydd eiddo dros dro gan gynnwys llifddorau y mae modd eu hymestyn i eiddo sy’n wynebu risg sylweddol o lifogydd cyffredin ar lwybrau dŵr a dŵr arwyneb.

Mae hefyd wedi gosod dyfeisiau monitro o bell ar strwythurau cilfachau allweddol i sicrhau bod systemau draenio yn yr ardal yn gweithio’n effeithiol.

Dywedodd yr adroddiad y bydd y Cyngor yn ceisio deall yr ardal o amgylch Treorci yn well drwy ddatblygu achos busnes i ddarparu argymhellion ar gyfer mecanweithiau rheoli addas fel bhod modd lleihau risgiau i lwybrau dŵr cyffredin yn y dyfodol, yn ogystal â dŵr wyneb a dŵr ar lawr yn gorlifo’n lleol, ac mae disgwyl i’r cam cyntaf hwnnw ddechrau yn y gwanwyn.

Casgliadau

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod tywydd Storm Dennis yn “eithafol”, gan ychwanegu ei bod hi’n “annhebygol y gellid atal llifogydd yn sgil digwyddiad tebyg yn llwyr”.

Dywedodd fod yr awdurdodau rheoli risgiau – y Cyngor yn yr achos hwn – “wedi cwblhau eu swyddogaethau rheoli risg llifogydd mewn modd boddhaol”, gan ychwanegu bod camau pellach wedi’u cynnig “i fynd i’r afael yn well â pharodrwydd ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd dŵr wyneb yn y dyfodol”.

Dyma’r degfed adroddiad i’w gyhoeddi gan y Cyngor fel rhan o’u dyletswyddau yn unol ag Adran 19 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010).

Mae’n dilyn adroddiadau yn ardaloedd Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Treforest, Glyntaff a Ffynnon Taf fis diwethaf, ac adroddiadau blaenorol ar gyfer Pentre, Cilfynydd a Threherbert yn ogystal ag adroddiad trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf i gyd.

Rhaid i’r prif awdurdod llifogydd lleol ddarparu cofnod ffeithiol o’r hyn ddigwyddodd mewn llifogydd arwyddocaol.

Dywedodd y cyngor y byddan nhw’n darparu cyfanswm o 19 adroddiad ar gyfer lleoliadau gafodd eu heffeithio gan Storm Dennis yn dilyn ymchwiliad cychwynnol i 28 o ardaloedd.