Mae Natalie Steele, 32, wedi cyfaddef lladd ei mab dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd.
Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ar Awst 12 ar ôl cael ei ganfod ag anafiadau difrifol mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd ei fam wedi pleidio’n ddieuog i lofruddiaeth, ond plediodd yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig heddiw (dydd Gwener, Chwefror 25).
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones wrth Lys y Goron Caerdydd fod y ple’n un derbyniol ar ôl i’r Goron dderbyn adroddiadau ynghylch iechyd meddwl Natalie Steele gan ddau seiciatrydd.
“Am y rhesymau yn adroddiadau Dr Huckle a Dr Wynne, ar y pryd roedd hi’n dioddef o seicosis ac iselder seicotig, er ei bod hi’n iawn i bledio a mynd gerbron llys,” meddai.
“Gallaf gadarnhau bod y ple gafodd ei roi heddiw’n dderbyniol gan yr erlyniaeth.”
Natur a graddfa’r salwch “yn amlwg”
Dywedodd y Barnwr Michael Fitton ei fod yn cytuno â hynny, ac y byddai’n ei dedfrydu ar Fai 3.
“Dw i’n llwyr gefnogi’r farn sydd wedi’i chymryd,” meddai.
“Dw i’n dweud yn glir fy mod i wedi gweld adroddiadau wedi’u paratoi gan y ddau arbenigwr, ac mae’r gen i’r meddwl uchaf o’r ddau ac mae’r ddau’n deilio’n gynhwysfawr â’r amgylchiadau trychinebus dros gyflawni’r drosedd.
“Mae natur a graddfa ei salwch yn amlwg i unrhyw un sydd wedi dechrau darllen yr adroddiadau hyn.”
Mae Natalie Steele, o Parkwood Heights, Broadland, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei chadw yn y ddalfa nes y bydd hi’n cael ei dedfrydu.
“Dw i wedi darllen yr adroddiadau a dw i’n deall pam fod yr erlyniaeth wedi derbyn eich ple o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig,” meddai’r barnwr.
“Mae yna lot o waith i chi ei wneud gyda seiciatryddion a byddwn yn eich annog i gydweithredu’n llawn.”
Wrth roi teyrngedau i Reid Steele y llynedd, dywedodd ei deulu ei fod yn blentyn “hynod hapus, hyfryd a deallus”.