Mae Llywodraeth yr Wcráin yn galw ar bobol dros 60 i ymladd wrth i luoedd Rwsia gyrraedd prifddinas y wlad, Kyiv.

Yn gynharach, roedd Llu Amddiffyn yr Wcráin wedi trydar yn galw ar holl ddinasyddion y wlad i ymuno â’r frwydr, gan arwain rhai i feddwl eu bod yn galw ar bobol ifanc dan oed i frwydro.

Dywedodd y datganiad gan Yuri Galushkin. Cadlywydd Lluoedd Arfog yr Wcráin, fod “angen popeth ar Wcráin”.

“Mae’r holl weithdrefnau ar gyfer ymuno (â’r frwydr) wedi’u symleiddio,” meddai.

“Dewch â’ch pasbort a’ch rhif adnabod yn unig.

“Does dim cyfyngiadau oedran.”

Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod datganiad newydd gan y Gweinidog Amddiffyn Alexey Reznikov yn egluro bod y llacio mewn cyfyngiadau oedran yn cyfeirio at bobol dros 60 oed.

“Penderfynais, mewn cytundeb â Cadlywydd Lluoedd Arfog yr Wcráin… i ymestyn y gallu i ymuno â’r frwydr i bobl dros 60 oed, sy’n foesol ac yn gorfforol barod i wrthsefyll a threchu’r gelyn,” ysgrifennodd Alexey Reznikov.

Yn gynharach, diolchodd Arlywydd yr Wcráin am ymdrechion y rhai sy’n amddiffyn y wlad.

Talodd deyrnged i ddewrder y 137 o filwyr a thrigolion fu farw yn y brwydro ddoe (dydd Iau, Chwefror 24).

Lluoedd Rwsia yng nghyffiniau Kyiv

Mae gweinyddiaeth amddiffyn yr Wcráin wedi cadarnhau bod lluoedd Rwsia wedi cyrraedd cyffiniau prifddinas y wlad, Kyiv.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cerbydau’r fyddin yn gyrru drwy Obolon, ardal ychydig i’r gogledd o ganol dinas Kyiv a thua 5.5 milltir o Senedd yr Wcráin yng nghanol y ddinas.

Mae pobol leol wedi cael eu hannog i greu coctels Molotov i ymladd yn ôl, tra bod cyngor i eraill chwilio am fochel.

“Trigolion heddychlon- byddwch yn ofalus. Peidiwch â gadael y tŷ!”

“Ewch i ff****”

Yn y cyfamser, mae 13 o warchodwyr ffin ar Snake Island, yn y Môr Du i’r de o Odessa, wedi cael eu lladd.

Cawson nhw orchymyn gan gwch rhyfel Rwsiaidd i ildio’r ynys a’u harfau, neu byddai’r cwch yn saethu atynt.

Gwrthododd y criw oedd ar yr ynys, gan ddweud wrth y cwch rhyfel: “Ewch i ff****”.

Cafodd pob un o’r 13 eu lladd.

Mae Arlywydd y wlad, Volodymyr Zelenskyy, wedi dweud y bydd yr 13 ohonynt yn derbyn y teitl “Arwyr Wcráin”.