Mae ystadegau newydd yn dangos bod 94.5% o swyddogion heddlu Cymru yn disgrifio eu hunain fel heterorywiol, ar gyfartaledd.
Dros bedwar llu Cymru, mae cyfartaledd o 5.5% o’r swyddogion yn disgrifio’u hunain fel hoyw, lesbiaidd, deurywiol, yn dewis hunan-ddisgrifiad, neu arall.
Heddlu Dyfed-Powys sydd â’r ganran isaf o swyddogion yn disgrifio eu hunain felly arall (3.8%) yng Nghymru a Lloegr.
Mae 96.2% o’r llu yn heterorywiol, 2.9% yn hoyw, 0.8% yn ddeurywiol, a 0.1% yn hunan-ddisgrifio.
Cafodd y data ei gasglu drwy gais rhyddid gwybodaeth gan asiantaeth newyddion Press Association, ond maen nhw’n dweud ei bod hi’n debyg fod y niferoedd yn uwch mewn gwirionedd oherwydd bod rhai gweithwyr yn gyndyn o ddatgelu eu rhywioldeb i’w cyflogwyr gan fod ganddyn nhw ofn wynebu rhwystrau wrth gael dyrchafiadau neu’n wynebu camdriniaeth homoffobig.
Ystadegau
Yn ôl yr ystadegau, mae 95.4% o swyddogion Heddlu De Cymru yn heterorywiol, a 95% o swyddogion Heddlu’r Gogledd yn uniaethu felly.
Dywedodd 2.9% o swyddogion Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd, 1.7% yn ddeurywiol, a 0.4% yn dewis hunan-ddisgrifio.
Yn Heddlu’r De, mae 3% o’r swyddogion yn disgrifio eu hunain fel hoyw neu lesbiaidd, 1.4% yn ddeurywiol, a 0.2% yn hunan-ddisgrifio.
Heddlu Gwent oedd â’r ganran uchaf o swyddogion lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu’n hunan-ddisgrifio yng Nghymru, gydag 8.8% yn disgrifio eu hunain felly.
Dywedodd 4.9% ohonyn nhw eu bod nhw’n lesbiaidd neu’n hoyw, 3.6% yn ddeurywiol, a 0.3% yn hunan-ddisgrifio.
Dydy’r canrannau ddim yn seiliedig ar y gweithluoedd cyfan, dim ond y gweithwyr lle mae cofnod o’u rhywioldeb.
‘Ddim yn deall y gymuned’
“Os nad ydyn ni’n cynrychioli ein cymunedau yna dydyn ni ddim yn deall y gymuned honno,” meddai’r Prif Arolygydd Lee Broadstock, cyd-gadeirydd y rhwydwaith LHDT+ sy’n cynrychioli swyddogion heddlu hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws yng Nghymru a Lloegr.
“Mae angen dealltwriaeth o’r hyn mae’r cymunedau hynny eu hangen er mwyn rhoi gwasanaeth heddlu deg i bobol.
“Dw i’n meddwl bod y data yn awgrymu bod mwy o swyddogion LHD yn casglu mewn ardaloedd lle mae yna awyrgylch fwy croesawgar iddyn nhw – byddan nhw’n cael eu tynnu yno.”
‘Darlun yn gwella’
Cafodd y data ei gasglu yn sgil casgliadau cwest dioddefwyr y llofruddiwr Stephen Port, oedd wedi lladd pedwar dyn hoyw.
Dywedodd aelodau o deuluoedd ei ddioddefwyr fod rhagfarnau, prinder swyddogion LHDT, a methiant i ymgysylltu â’r gymuned hoyw wedi golygu bod cliwiau am y llofruddiaethau wedi cael eu methu.
Fe wnaeth Stephen Port ladd pedwar dyn ifanc hoyw yn Barking rhwng 2014 a 2015, a chafodd gweithredoedd heddlu Llundain eu disgrifio fel “methiannau sefydliadol” a gafodd eu “gyrru gan homoffobia”.
Yn ôl Lee Broadstock, fe wnaeth achos Stephen Port ddangos bod diwylliannau anghroesawgar o fewn heddluoedd.
“Mae’n drist mai dyna’r achos yn dal i fod mewn rhai achosion, ond mae’r darlun yn gwella.
“Petaech chi wedi trio cael yr ystadegau hyn 20 mlynedd yn ôl, byddai hi wedi bod yn stori wahanol iawn – dw i’n amau y byddech chi wedi cael unrhyw ddata o gwbl,” meddai wrth PA.