Mae Cyngor Sir Conwy yn paratoi rhag ofn y daw cais i gynnig lloches i ffoaduriaid o’r Wcráin ar ôl i’r rhyfel ddechrau yno.

Roedd y byd yn syfrdan pan lansiodd Vladimir Putin, arweinydd Rwsia, daflegrau ac ymosod ar yr Wcráin yn oriau man y bore.

Tra bod arweinwyr gwleidyddol y byd yn condemnio’r ymosodiad, gan gyflwyno cyfres o sancsiynau economaidd yn erbyn Rwsia, fe fu cynghorwyr yn trafod digwyddiadau’r byd mewn cyfarfod.

Datgelodd Cheryl Carlisle, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol, ei bod hi wedi treulio bore yn cyfarfod ag arweinwyr gofal cymdeithasol Cymru.

“Dim ond i roi gwybod i’m cydweithwyr fy mod i newydd fod mewn cyfarfod gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru, a’r gweinidog gofal cymdeithasol, ac rydym eisoes yn trafod y ffaith y gall fod angen i ni gynnig lloches i ffoaduriaid o’r sefyllfa ofnadwy yn yr Wcráin,” meddai.

Cais gan San Steffan?

“Un o bynciau’r drafodaeth oedd sut ydyn ni am helpu plant o’r Wcráin sy’n ffoaduriaid os daw hi i hynny,” meddai’r Cynghorydd Cheryl Carlisle ar ôl y cyfarfod.

“Pan oedd yna wagio yn Affganistan, gwnaeth pob cyngor a theuluoedd eu gorau glas i dderbyn plant a theuluoedd.

“Gyda’r Wcráin, rydyn ni’n ymbaratoi rhag ofn fod rhaid i ni dderbyn teuluoedd a phlant sy’n ffoaduriaid, ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol.

“Mae gennym ni argyfwng tai yma, ond rhaid i ni helpu lleo bo’n bosib.

“Ond fe fyddai’n gais gan Lywodraeth San Steffan i bob cyngor dderbyn hyn a hyn o ffoaduriaid.

“Rwy’n gwybod y bydd ein teuluoedd maeth a’n gofalwyr yng Nghymru, fel bob amser, yn ateb yr her ac yn agor eu cartrefi a’u calonnau i’r plant hyn pe bai angen.”

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey fod ei feddyliau gyda phawb yn yr Wcráin.

“Rwy’n credu ei bod hi ond yn iawn dweud fy mod yn sicr ein bod ni i gyd wedi gwylio’r newyddion fore heddiw ac wedi gweld y delweddau brawychus, syfrdanol ac oeraidd o’r tanciau’n symud i mewn i’r Wcráin,” meddai.

“Yn amlwg, fel aelodau lleol, rydym yn canolbwyntio ar faterion lleol ond mae’n syfrdanol gweld, ac rwy’n credu y byddem oll yn dymuno anfon ein meddyliau a’n gweddïau at y bobol yn yr Wcráin yn ystod adeg sy’n ofidus a phryderus i bawb.

“Mae’n amser o straen gwirioneddol adeg yma’r flwyddyn, yn ceisio paratoi cyllideb, ond pan edrychwch chi ar yr hyn mae 40m o bobol yn yr Wcráin yn ei wynebu, yna mae’n rhoi persbectif i’n pryderon a’n gofidiau a’r hyn y mae’n rhaid i ni ymdrin ag o.”