Mae teuluoedd sy’n galaru ar ôl colli anwyliaid yn sgil Covid-19 yn teimlo’n “hynod rwystredig” gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd un o aelodau grŵp Teuluoedd dros Gyfiawnder Covid-19 Cymru fod yna ddiffyg cyfathrebu ar eu rhan, ac nad yw’r atebion i’w cwestiynau’n ddigonol.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymddwyn yn “ansensitif” tuag at deuluoedd.

Cyhoeddodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fframwaith i gefnogi ymchwiliadau i farwolaethau a oedd yn ganlyniad i bobol yn dal Covid mewn ysbytai yng Nghymru fis diwethaf.

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu gwybodaeth am nifer yr ymchwiliadau sydd wedi’u cynnal dan y broses Gweithio i Wella.

Dydy’r un o’r teuluoedd wedi clywed gan fyrddau iechyd gyda manylion am ymchwiliadau i farwolaethau perthnasau a ddaliodd y feirws mewn ysbytai chwaith, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae gadael i fyrddau iechyd gynnal eu hymchwiliadau eu hunain wedi golygu bod anghysondeb dros y wlad hefyd, gyda rhai ardaloedd wedi gorffen y gwaith ac eraill heb.

‘Diffyg cyfathrebu’

Dywedodd y grŵp Teuluoedd dros Gyfiawnder Covid-19 Cymru wrth y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu “cadw yn y tywyllwch” o ran canlyniadau’r ymchwiliadau.

“Er ein bod ni’n gwerthfawrogi peth o’r gweithredu sy’n digwydd i edrych ar farwolaethau’r rhai wnaethon ni eu colli yn sgil coronafeirws, rydyn ni’n hynod o rwystredig gyda Llywodraeth Cymru ar y funud,” meddai Anna-Louise Marsh-Rees, aelod o’r grŵp.

“Mae yna ddiffyg cyfathrebu ar eu rhan nhw, ac rydyn ni’n cael atebion anghyson, anghyflawn, neu anghywir i’n cwestiynau, neu wal o dawelwch.

“O ystyried mai heintiadau gafodd eu dal mewn ysbytai achosodd chwarter marwolaethau Covid Cymru, ni ddylai hi fod mor anodd â hyn cael gwell syniad am sut mae gweinidogion yn bwriadu ymchwilio iddyn nhw.

“Rydyn ni’n teimlo fel bod teuluoedd sy’n galaru’n cael eu cadw yn y tywyllwch pan mae angen i olau gael ei roi ar fethiannau i reoli heintiau fel nad yw’r camgymeriadau’n cael eu hailadrodd yn y dyfodol.”

‘Haeddu gwell’

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi gwrthod galwadau i gynnal ymchwiliad ymateb Covid-19 penodol i Gymru sawl tro, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ailadrodd y galwadau.

“Er bod yna weithredu cadarnhaol wedi bod drwy’r ymrwymiad i ymchwilio pob marwolaeth oedd yn ganlyniad i ddal yr haint yn yr ysbyty – rhywbeth sy’n wir am chwarter marwolaethau Covid Cymru – mae teuluoedd sy’n galaru angen mwy o ffydd yn y system, a gall hynny ond digwydd gyda thryloywder,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Fel y mae hi ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n galaru’n amlwg yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cadw yn y tywyllwch wrth iddyn nhw bwyso ar weinidogion Llafur am atebion clir ynghylch y broses.

“Maen nhw, a gweddill cyhoedd Cymru, yn haeddu gwell na hyn.

“Wrth gwrs, ni fydd hyn yn disodli’r ymchwiliad Covid annibynnol, penodol i Gymru rydyn ni eisiau ei weld.”

Dechrau’r broses

Mae byrddau iechyd wedi dechrau ar y broses o weithredu’r fframwaith i ymchwilio i achosion o Covid-19 a gafodd eu dal mewn ysbytai, meddai Llywodraeth Cymru.

“Fe wnaethon ni gyhoeddi buddsoddiad o £4.5m yn y fframwaith fis yn ôl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Cyfarfu’r Prif Weinidog â Theuluoedd dros Gyfiawnder Covid-19 Cymru’r wythnos hon, a chyfarfu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ag aelodau’r grŵp yn gynharach y mis hwn i drafod y fframwaith.

“Byddan nhw’n darparu diweddariadau pellach wrth i’r gwaith pwysig hwn symud ymlaen.”